Neidio i'r cynnwys

Cymdeithas Bêl-droed Andorra

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Bêl-droed Andorra
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd1994
Aelod cywllt o FIFA1996
Aelod cywllt o UEFA1996
LlywyddFelix Álvarez
Gwefanfaf.ad

Ffederasiwn Pêl-droed Andorra (Catalaneg: Federació Andorrana de Futbol) yw enw swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chorff llywodraethu pêl-droed yn Andorra.[1] Fe'i sefydlwyd ym 1994 ac ymunodd fel aelod o FIFA ac UEFA yn 1996. Mae'n trefnu'r gynghrair bêl-droed, Primera Divisió, y Copa Constitució ac Andorran Supercup, a thîm pêl-droed cenedlaethol Andorra. Mae wedi'i leoli yn Escaldes-Engordany.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Tîm pêl-droed cenedlaethol Andorra, sy'n dod o dan ymbarél y FAF, yn ymarfer

Cyn 1995, roedd clybiau gorau'r dywysogaeth (El Principat - fel gelwir Andorra yn y Gatalaneg) yn chwarae yng nghynghrair Sbaen, ond arweiniodd creu'r ffederasiwn ym 1994 at greu cystadleuaeth genedlaethol yn ychwanegol at y Copa de la Constitucion, a oedd eisoes wedi bodoli ers tri thymor. Fodd bynnag, gwrthododd FC Andorra, sef clwb enwocaf y dywysogaeth, gymryd rhan yn y bencampwriaeth hon a pharhaodd i chwarae yn y gynghrair gwladwriaeth Sbaen.[3]

Yn ystod y pedwar tymor cyntaf, fformat y gystadleuaeth oedd pencampwriaeth glasurol gyda deg i ddeuddeg tîm yn dibynnu ar y tymor. FC Encamp oedd y pencampwr cyntaf yn hanes Andorra ac fe'i dilynwyd gan gyfnod o oruchafiaeth CE Principality , a oedd yn bencampwr deirgwaith rhwng 1996 a 1999.

Yn ystod y cyfnod hwn hefyd y cynhwysodd UEFA glwb Andorraidd am y tro cyntaf mewn cystadlaethau Ewropeaidd (Cwpan UEFA 1997-1998).

Cystadlaethau FAF[golygu | golygu cod]

  • Primera Divisió (Adran Gyntaf/Uwch Gynghrair)
  • Segona Divisió (Lefel I)
  • Adran Segona (Lefel II)
  • Copa Constitució ('Cwpan y Cyfansoddiad' - h.y. Cwpan Andorra)
  • Supercopa de Andorra
  • Cynghrair Futsal Andorra

Yn yr un modd, mae'r FAF yn trefnu'r gwahanol gynghreiriau pêl-droed ar lawr gwlad (pobl ifanc, ieuenctid, plant, a'r cadetiaid).

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "When Saturday Comes - Remote possibilities". Wsc.co.uk. 2012-07-09. Cyrchwyd 2013-12-04.
  2. "Encouraging Andorran advancements". Uefa.com. Cyrchwyd 2013-12-04.
  3. "Institució". 2022-08-21.
Eginyn erthygl sydd uchod am Andorra. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.