Cylch y Cawr
Delwedd:Northern Ireland Belfast Giants Ring 001.jpg, Giants Ring.jpg | |
Math | safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.5403°N 5.95°W |
Heneb Neolithig yn Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon, yw Cylch y Cawr (Saesneg: The Giant's Ring), a leolir yn Ballynahatty, ger Shaw's Bridge, Belffast. Cafodd ei chadw rhag dinistr gan yr Is-iarll Dungannon.
Mae'r safle yn Heneb gofrestredig gyda statws Ardal o Ddiddordeb Archaeolegol Sylweddol (ASAI: Area of Significant Archaeological Interest).[1]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r safle yn gorlan gron, 180 m (590 tr) ar draws a 2.8 hectar (6.9 acer) mewn arwynebedd, a amgylchynir gan glawdd crwn o bridd 3.5 m (11 tr) o uchder. Mae o leiaf tri o'r pum bwlch afreolaidd yn y clawdd yn rhai bwriadol ac yn rhan o'r gwaith gwreiddiol, efallai. I'r dwyrain o ganol yr heneb ceir siambr gladdu gellog (passage tomb) bychan gyda olion mynedfa yn wynebu tua'r gorllewin. Mewn adroddiadau cynnar cyfeirir at gromlechau eraill, tu allan i'r cylch, ond mae'r rhain wedi diflannu.[2]
yn y 18g defnyddid y safle i rasio ceffylau. Cafodd safle ddefodol gerllaw ei chloddio ar ddechrau'r 1990au gan Barrie Hartwell o Brifysgol y Frenhines, Belffast.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Adran yr Amgylchedd" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-07-22. Cyrchwyd 2013-06-27.
- ↑ Weir, A (1980). Early Ireland. A Field Guide. Belfast: Blackstaff Press. p. 133.