Cylch Cerrig Moel Tŷ Uchaf

Oddi ar Wicipedia
Cylch Cerrig Moel Tŷ Uchaf
Enghraifft o'r canlynolcist, cylch cerrig Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthSir Ddinbych Edit this on Wikidata

Cylch cerrig ger Llandrillo, Sir Ddinbych ydy Cylch Cerrig Moel Tŷ Uchaf; cyfeirnod OS: SJ05603717 ar fryncyn o'r un enw, ar ochr orllewinol Mynyddoedd y Berwyn.[1] Credir iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer seremoniau crefyddol neu o bosibl ar gyfer claddu'r meirw gan fod pant bychan yn y canol. Mae'n dyddio o Oes yr Efydd (tua diwedd y 3ydd fileniwm CC).[2] Diamedr y cylch ydy 11 metr ac mae'r garreg mwyaf yn 92 cm o uchder.

Cylch cerrig Moel Tŷ Uchaf ger Llandrillo

Yn yr un lle ceir pedwar "cist" carreg sydd fwy na thebyg yn dyddio'n ôl i Oes y Cerrig neu efallai ychydig hwyrach.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan CPAT
  2. Helen Burnham, Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 32.
  3. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-16. Cyrchwyd 2010-08-30.