Cylch Cerrig Tyfos

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cylch cerrig Tyfos)
Jump to navigation Jump to search
Cylch Cerrig Tyfos
Llandrillo
Cylch Cerrig Tyfos

Heneb gynhanesyddol yw Cylch cerrig Tyfos, a leolir ger ffermdy Tyfos rhwng Cynwyd a Llandrillo yn Sir Ddinbych. Mae'n enghraifft o 'gylch carnedd', sef cylch o gerrig wedi'u gosod gyda charnedd. Yn ôl pob tebyg mae'n dyddio o Oes yr Efydd. Cyfesurynnau'r OS ydy: SJ02843876.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cylch cerrig Tyfos

Saif y cylch cerrig hwn ar lan afon Dyfrdwy. Ceir twmpath o bridd, sef gweddillion y garnedd, gyda chylch o 13 carreg ar ei ben. Mae'r garnedd yn mesur 28 metr ar draws ac yn 1.25 metr o uchder yn y canol. Mae'r cylch yn mesur 17 metr ac yn sefyll ar ben y garnedd. Does dim o'r cerrig yn dal i sefyll erbyn hyn ac mae bylchau yn y cylch yn awgrymu y bu rhagor o gerrig yno ar un adeg.

Fel rheol mae enweb o'r fath yma yn cynnwys claddfa dan y garnedd, ond does dim olion o hynny heddiw.

Mynediad[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif yr heneb ar dir preifat. Dylai ymwelwyr gofyn yn y ffermdy am ganiatad i ymweld â'r safle, sydd fel arall i'w gweld o'r lôn heibio i'r fferm.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tudalennau 31-32.