Neidio i'r cynnwys

Cyflafan Lewiston

Oddi ar Wicipedia
Cyflafan Lewiston
Enghraifft o:spree shooting, llofruddiaeth dorfol Edit this on Wikidata
Dyddiad25 Hydref 2023 Edit this on Wikidata
Lladdwyd18 Edit this on Wikidata
LleoliadSparetime Recreation Lewiston, Schemengees Bar & Grille Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthAndroscoggin County Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Achos o saethu torfol yn yr Unol Daleithiau oedd cyflafan Lewiston a gyflawnwyd ar 25 Hydref 2023 yn Lewiston, yn nhalaith Maine, gan ladd 18 ac anafu 13 o bobl. Cychwynnodd y trosedd mewn alai fowlio, ac yna saethwyd ar bobl mewn bwyty ychydig funudau'n hwyrach. Ffoes y llofrudd, a saethodd ei hun yn farw yn ddiweddarach.

Ychydig cyn saith o'r gloch yr hwyr (Amser Dwyrain UDA) ar Ddydd Mercher, 25 Hydref 2023, cafodd ddau achos ar wahân o saethu eu riportio yn ninas Lewiston, un yn alai fowlio Just-in-Time Recreation a'r llall yn Schemengees Bar & Grille Restaurant, rhyw bedair milltir i ffwrdd.[1] Llofruddiwyd saith yn yr alai fowlio, saith yn y bwyty, ac un yn y stryd y tu allan i'r bwyty. Bu farw tri pherson arall wedi iddynt gael eu cludo i Ganolfan Feddygol Ganolog Maine. O'r rhai a saethwyd yn yr alai fowlio, roedd pedwar person byddar a oedd yn chwarae mewn cystadleuaeth taflu bagiau ffa, tad a'i fab 14 oed yn bowlio gyda'i gilydd, cwpl yn eu henaint yn bowlio, a gweithwraig a geisiodd ffonio'r heddlu. Un o'r rhai a laddwyd yn y bwyty oedd y rheolwr a gafaelodd mewn cyllell i geisio rhwystro'r saethwr.[2]

Erbyn wyth o'r gloch, rhyddhawyd ffotograff o'r un a ddrwgdybir, dyn 40 oed o'r enw Robert Card, gan Swyddfa Siryf Androscoggin County, a chychwynnodd helfa eang ar ei ôl.[1] Cyhoeddwyd gwarant i'w arestio ar ddeunaw cyhuddiad o lofruddiaeth. Cynghorwyd i fusnesau'r ddinas gau ac i drigolion aros yn eu cartrefi. Erbyn canol nos, cafwyd hyd i'r car Subaru a yrrwyd gan Card, wrth fan lansio cychod yn nhref Lisbon, oddeutu saith milltir i dde-ddwyrain Lewiston.[2] Ar nos 27 Hydref, wedi deuddydd o chwilio, cafwyd hyd i gorff Card, wedi saethu ei hunan yn farw, mewn carafán mewn maes parcio ger canolfan ailgylchu yn Lisbon Falls.[3]

Aelod o Fyddin Wrth Gefn yr Unol Daleithiau oedd Robert Card, a drigodd yn Bowdoin, Maine. Dioddefai o afiechyd meddwl, a chafodd ei gadw mewn ysbyty seiciatrig am bythefnos yn ystod haf 2023.[2] Yn ôl yr heddlu, prynodd Card ei ynnau ychydig o ddyddiau cyn y trosedd.[4]

Hwn ydy'r achos gwaethaf o saethu torfol yn hanes Maine, ac un o'r achosion gwaethaf yn hanes yr Unol Daleithiau yn nhermau'r nifer a laddwyd. Yn sgil y lladdfa, galwodd yr Arlywydd Joe Biden ar wleidyddion y Blaid Weriniaethol yn y Gyngres i "gyflawni eu rhwymedigaeth i gadw'r bobl Americanaidd yn ddiogel".[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 (Saesneg) George Petras, Janet Loehrke, a Stephen J. Beard, "Archifwyd 2023-11-08 yn y Peiriant Wayback", USA Today (26 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2023.
  2. 1 2 3 (Saesneg) Gabriella Borter, "Archifwyd 2023-11-01 yn y Peiriant Wayback", Reuters (28 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2023.
  3. (Saesneg) Willem Marx, "Archifwyd 2023-11-05 yn y Peiriant Wayback", NPR (28 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2023.
  4. (Saesneg) Holly Honderich a Max Matza, "Maine mass shooting suspect found dead", BBC (28 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2023.
  5. (Saesneg) "Archifwyd 2023-11-03 yn y Peiriant Wayback", Y Tŷ Gwyn (27 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2023.