Cyffylog
Gwedd
| Cyffylog | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Scolopacidae |
| Genws: | Scolopax |
| Rhywogaeth: | S. rusticola |
| Enw deuenwol | |
| Scolopax rusticola Linnaeus, 1758 | |

Aelod o deulu'r Scolopacidae (rhydyddion) yw'r Cyffylog (Scolopax rusticola). Fe'i ceir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop ac Asia.
Mae'r aderyn hyd at 38 cm o hyd a hyd at 65 cm ar draws yr adenydd, gyda phig hir. Mae yn fwy na'r Gïach Cyffredin, sy'n bur debyg o ran golwg. Gan fod ei lygaid wedi eu gosod ar ochr y pen, gall weld pethau y tu ôl iddo yn ogystal ac o'i flaen. Mae'n cuddio mewn coedwigoedd yn ystod y dydd, ac yn dod allan i fwydo yn y gwyll.
Yng Nghymru, ceir niferoedd sylweddol yn gaeafu, a nifer llawer llai yn nythu.