Gïach Cyffredin

Oddi ar Wicipedia
Gïach Cyffredin
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Gallinago
Rhywogaeth: T. gallinago
Enw deuenwol
Gallinago gallinago
(Linnaeus, 1758)
Gallinago gallinago

Aelod o deulu'r Scolopacidae (rhydyddion) yw'r Gïach Cyffredin neu Gïach Gyffredin (Gallinago gallinago).

Mae'r Gïach Cyffredin yn aderyn cyffredin ar draws Ewrop, Asia a gogledd Affrica. Dosbarthwyd Gïach Wilson (G. delicata) o Ogledd America a Gïach De America (G. paraguaiae) fel is-rywogaethau o'r aderyn hwn yn y gorffennol. Mae'r aderyn yn 23 – 28 cm o hyd, gyda phig hir.

Yng Nghymru, ceir niferoedd sylweddol yn gaeafu, ond mae'r nifer sy'n nythu yma wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd sychu gwlyptiroedd.