Cwpan Rygbi'r Byd
Cwpan Rygbi'r Byd | |
---|---|
Chwaraeon | Rygbi'r Undeb |
Sefydlwyd | 1987 |
Motto | A World in Union |
Nifer o Dimau | 20 (16 rhwng 1987 a 1995) |
Pencampwyr presennol | Seland Newydd |
Gwefan Swyddogol | http://www.rugbyworldcup.com |
Cwpan Rygbi'r Byd yw prif gystadleuaeth rhyngwladol rygbi'r undeb. Cynhelir twrnament bob pedair blynedd ers y bencampwriaeth gyntaf yn 1987 yn Awstralia a Seland Newydd. Trefnir y gystadleuaeth gan gorff llywodraethol y gamp yn rhyngwladol, World Rugby.
Y pencampwyr presennol yw Seland Newydd enillodd y gystadleuaeth yn 2015 yn erbyn Awstralia. Mae un tîm wedi codi'r tlws 3 gwaith - Seland Newydd, a mae dau tîm wedi codi'r tlws ddwywaith; Awstralia a De Affrica.
Mae'r enillwyr yn derbyn Cwpan Webb Ellis sy'n dwyn enw'r disgybl o Ysgol Rugby lwyddodd, yn ôl y chwedl, i ddyfeisio'r gamp wrth "bigo'r bêl i fyny a rhedeg gydag o".
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd rygbi'r undeb yn rhan o Gemau Olympaidd yr Haf ym Mharis ym Mharis 1900, Llundain 1908, Antwerp 1920 ac ym Mharis 1924. Ffrainc enillodd y fedal aur cyntaf, yna Awstralia gyda'r ddwy gystadleuaethn rygbi olaf yn y Gemau Olympaidd yn cael eu hennill gan Unol Daleithiau America, ond ni chafodd rygbi'r undeb ei gynnwys yn y gemau ar ôl 1924[1][2]
Cafodd Cwpan Rygbi'r Byd ei grybwyll ar sawl achlysur yn mynd yn ôl at y 1950au, ond gyda'r gamp yn parhau i fod yn gêm amatur roedd y rhan fwayf o Undebau'r International Rugby Football Board (IRFB) yn erbyn y syniad[3][4]. Ym 1985, roedd Awstralia, Seland Newydd a Ffrainc o blaid cynnal Cwpan Rygbi'r Byd, ac er nad oeddent yn cael cystadlu oherwydd sancsiynau yn erbyn system apartheid y wlad, roedd De Affrica hefyd o blaid.
Golygai hynny fod y bleidlais yn gyfartal 8-8 ond, wedi i aelod Lloegr acyna aelod Cymru newid eu meddyliau, cafwyd cytundeb i drefnu Cwpan y Byd am y tro cyntaf ym 1987[4]
Pencampwriaethau
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Lleoliad | Rownd Derfynol | Gêm 3ydd/4ydd | Nifer o dimau | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enillydd | Sgôr | Ail | Trydydd | Sgôr | Pedwerydd | ||||||
1987 | Awstralia a Seland Newydd |
Seland Newydd |
29-9 | Ffrainc |
Cymru |
22–21 | Awstralia |
16 | |||
1991 | Lloegr, Ffrainc, Iwerddon Yr Alban a Cymru |
Awstralia |
12-6 | Lloegr |
Seland Newydd |
13–6 | Yr Alban |
16 | |||
1995 | De Affrica | De Affrica |
15–12 (way) |
Seland Newydd |
Ffrainc |
19–9 | Lloegr |
16 | |||
1999 | Cymru | Awstralia |
35–12 | Ffrainc |
De Affrica |
22–18 | Seland Newydd |
20 | |||
2003 | Awstralia | Lloegr |
20–17 (way) |
Awstralia |
Seland Newydd |
40–13 | Ffrainc |
20 | |||
2007 | Ffrainc | De Affrica |
15–6 | Lloegr |
Yr Ariannin |
34–10 | Ffrainc |
20 | |||
2011 | Seland Newydd | Seland Newydd |
8–7 | Ffrainc |
Awstralia |
21–18 | Cymru |
20 | |||
2015 | Lloegr | Seland Newydd |
34–17 | Awstralia |
De Affrica |
24–13 | Yr Ariannin |
20 | |||
2019 | Japan | ||||||||||
2023 | Ffrainc | 20 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rugby in the Olympics: History". World Rugby. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-27. Cyrchwyd 2015-06-27.
- ↑ Richards, Huw. "Rugby and the Olympics". ESPN.
- ↑ "History of the World Cup". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-05-08. Cyrchwyd 2015-06-27. Unknown parameter
|published=
ignored (help)CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link) - ↑ 4.0 4.1 "Rugby World Cup". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-22. Cyrchwyd 2015-06-27. Unknown parameter
|published=
ignored (help)