Cwmni Cyfri Tri
Dyddiad cynharaf | 1979 |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Cysylltir gyda | Arad Goch |
Daeth i ben | 1989 |
Lleoliad | Aberystwyth |
Cwmni theatr Gymraeg yn y 1980au oedd Cwmni Cyfri Tri. Sefydlwyd y cwmni gan Jeremy Turner, Sera Moore Williams a Christine Watkins ar ôl cydweithio ar sioe theatr ym 1979.[1] Daeth y cwmni i ben drwy uno gyda Theatr Crwban i greu Theatr Arad Goch ym 1989. Un o'r prif resymmau dros greu'r cwmni oedd i herio gweledigaeth Cwmni Theatr Cymru. Yn ôl Roger Owen, honnai'r cwmni bod "...eu diddordeb yn y theatr yn bur wahanol i'r rhelyw a weithiai trwy gyfrwng y Gymraeg ar ddechrau'r 1980au."[1]
"Nid ymddiddorent yn y math o theatr led-realaidd a gyflwynasid gan y rhan fwyaf o gwmnïau, ac nid ystyrient eu hunain yn ddilynwyr unrhyw draddodiad brodorol o theatr neu ddrama. Yn hytrach mynnent mai eu priod waith oedd creu 'iaith theatraidd newydd' a roddai'r lle mwyaf blaenllaw i weithgarwch corfforol yr actor", ychwanegodd.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Dylanwadwyd yn drwm ar y [cwmni] [...] gan weithgarwch Cardiff Laboratory Theatre", yn ôl Roger Owen yn ei gyfrol academaidd Ar Wasgar.[1] Disgrifiai Owen y cwmni hwnnw fel "un o gwmnïau theatr mwyaf arloesol Cymru yn ystod y 1970au."[1] "Egin-aelodau Brith Gof a fu'n cynnal Cardiff Lab am flynyddoedd, a symbylwyd aelodau Cwmni Cyfri Tri i weithio'n broffesiynol yn y theatr ar ôl iddynt gymryd rhan mewn prosiect dan nawdd y Lab ym 1979. Elfen arall a ddygai'r ddau gwmni at ei gilydd oedd y ffaith eu bod yn dymuno creu theatr a oedd yn flaengar a herfeiddiol o ran techneg ond a oedd hefyd yn hygyrch a chynhenid Gymreig ei naws."[1]
"Buont [...] yn ysgogiad tra phwysig i Gwmni Cyfri Tri, am mai yn un o gynyrchiadau Cymraeg Cardiff Lab y daeth sylfaenwyr y cwmni hwnnw at ei gilydd fel partneriaid creadigol am y tro cyntaf. Cyflwynwyd y cynhyrchiad hwnnw yn yr awyr agored ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979. Fersiwn corfforol o chwedl Blodeuwedd oedd y sioe, a gyfarwyddwyd gan Mike Pearson, ac a gyflwynwyd gan gwmni a gynhwysai (ymysg eraill) nifer o fyfyrwyr drama Prifysgol Cymru Aberystwyth. Ymhlith y myfyrwyr hyn, yr oedd egin-sylfaenwyr Cwmni Cyfri Tri, sef Christine Watkins, myfyrwraig MA, Sera Moore-Williams, a oedd ar fin dechrau ar ei blwyddyn olaf yn y coleg, a Jeremy Turner, a oedd newydd raddio. Bu'r profiad o gydweithio â Cardiff Lab yn agoriad llygad i'r tri ohonynt."[1]
Gwarchod y Môr oedd eu cynhyrchiad cyntaf yn Chwefror 1980.
Ynghanol y 1980au, penderfynodd y cwmni newid trywydd gan ganolbwyntio'n fwy fwy ar gynyrchiadau i blant a phobl ifanc.
Erbyn diwedd y 1990au, "roedd cwmpas gwaith ac arddull theatraidd Brith Gof a Chwmni Cyfri Tri / Arad Goch mor wahanol fel mai o'r braidd y gellid dirnad y cyswllt â fu rhyngddynt yn ystod y blynyddoedd cynnar."[1]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]- Gwarchod y Môr (1980)
- Y Sipsi Het Ddu (1980) - sioe ysgolion - sioe un-dyn Jeremy Turner
- Caerdroia (1981) cast: Jeremy Turner, Bryn Fôn
- Manawydan (1982) ar y cyd â Brith Gof
- Lily (1982) cast: Christine Watkins
- Y Mawr, Y Bach a'r Llai Fyth! (1983) anterliwt gan William O Roberts
- Polka yn y Parlwr (1984)
- Pob Lliw Dan Haul (1984) - sioe ysgolion
- Gyrdd-der : O'r Cysgod (1985) Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Rhyl 1985 - sioe pobol ifanc
- Gyrdd-der '86 (1986) sioe pobol ifanc
- Dyrchafiad Dyn Bach (1987) anterliwt gan John Glyn Owen
- Joli Boi (1987)
- Cellwair (1988) cyfieithiad o One for the Road gan Harold Pinter - taith Medi 1988[2]