Cwfl-lys byseddog

Oddi ar Wicipedia
Cwfl-lys byseddog
Colura calyptrifolia
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Porellales
Teulu: Lejeuneaceae
Genws: Colura
Rhywogaeth: C. calyptrifolia
Enw deuenwol
Colura calyptrifolia

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Cwfl-lys byseddog (enw gwyddonol: Colura calyptrifolia; enw Saesneg: fingered cowlwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng ngorllewin Cymru (o'r de i'r gogledd), yr Alban, Iwerddon a Chernyw ac yma ac acw yn Lloegr.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r Cwfl-lys byseddog yn ffurfio clytiau melyn-wyrdd golau o ddeiliach, gyda phob deilen yn ddim ond ychydig o filimetrau ar draws. Mae gan y ddeilen big hir, sy'n unigryw i'r rhywogaeth hon (C. calyptrifolia). Nid yw'r coesynnau bach yn hawdd i'w canfod, ac nid yw'r strwythur dail cymhleth yn hawdd ei ddeall yn y maes, heb chwyddwydr. Hyd y dail yw hyd at 1.5 mm, ac maent yn 0.5 mm o led.[1]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Cwfl-lys byseddog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk' adalwyd 29 mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.