Cultúrlann Uí Chanáin

Oddi ar Wicipedia
Cultúrlann Uí Chanáin
Enghraifft o'r canlynolcanolfan gymunedol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2009 Edit this on Wikidata
LleoliadDerry Edit this on Wikidata
GwladwriaethGogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
Cultúrlann Uí Chanáin, Derry (2009)

Mae Cultúrlann Uí Chanáin hefyd Cultúrlann Doire gan arddel enw wreiddiol Wyddeleg y ddinas neu Cultúrlann Derry ac yn flaenorol An Gaeláras ("Cartref y Gwyddel") yn ganolfan iaith Wyddeleg, diwylliannol menter, a busnes yng nghannol dinas Derri yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r ganolfan wedi ei hadeiladu ar seiliau mudiadau blaenorol i hyrwyddo'r iaith Wyddeleg yn y ddinas ond yn benthyg ar frand Cultúrlann a sefydlwyd yn ninas Belffast yn 1991. Mae'n ganolfan gwerth £4miliwn yn ardal hanesyddol Great James Street o fewn muriau hanesyddol y ddinas. Mae'n cynnwys theatr 200 sedd, canolfan gelfyddydau amlbwrpas a chanolfan gynadledda. Mae'r Caife (caffe) mewnol yn cynnig dewis o bobi cartref a deli, yn ogystal â bwydlen ginio Gwyddelig draddodiadol. Mae'r cynnyrch wedi'i brynu'n lleol ac wedi'i wneud gartref, gyda rhai'n dod o'r ardd ar do'r adeilad ei hun.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r Cultúrlann yn cwmpasu ac yn adeiladu ar mentrau blaenorol i hyrwyddo iaith a diwylliant Gwyddeleg yn Derry. Caiff ei redeg gan Gaeláras. Sefydlwyd An Gaeláras yn 1984 fel Craobh Cholm Cille, cangen o Conradh na Gaeilge yn ardal Bogside, Derry. Mae'n gwmni cyfyngedig trwy warant ac mae ganddo hefyd statws elusennol.

Pan ddechreuodd Craobh Cholm Cille am y tro cyntaf yn Dove House yng nghanol y Bogside, yr uchelgais oedd darparu dosbarthiadau Gwyddeleg i oedolion sy’n dysgu ac i bobl ifanc yr ardal. Fodd bynnag roedd y galw am ddosbarthiadau Gwyddeleg mor fawr fel y tyfodd yn gyflym yn fwy na'i safle cyntaf a penderfynwyd caffael adeilad yng nghanol y ddinas.

Ym 1988, symudodd An Conradh o Dove House i 35 Great James’ Street, Derry. Ym 1994 prynodd y grŵp adeilad pedwar llawr drws nesa', yn 34 Great James’ Street, a galwyd y lle yn An Gaeláras. Yn 2001, prynodd An Gaeláras adeilad arall, sef becws McDaid yn yr un stryd, 37 Great James Street, a sicrhaodd ganiatâd cynllunio ar gyfer Canolfan Iaith, Celfyddydau a Menter Ddiwylliannol Wyddelig newydd bwrpasol ar y safle ar gost o £4.6m. Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r adeilad a ddyluniwyd gan O'Donnell & Tuomey ym mis Ionawr 2008 ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ar 4 Medi 2009. Ym mis Gorffennaf 2008, cynrychiolodd yr adeilad newydd yma Iwerddon yn Biennale Fenis ac mae wedi ennill llawer o wobrau ers ei gwblhau, gan ddod yn ail yn y gystadleuaeth fawreddog.

Mae An Gaeláras Cyf wedi tyfu'n sylweddol ers ei sefydlu gyntaf ac ers cwblhau eu hadeilad newydd, Cultúrlann Uí Chanáin. Mae darpariaeth gwyliau, rhaglenni celfyddydol ac addysg wedi ehangu y tu hwnt i gyfyngiadau’r gofod presennol ac mae'r cwmni nid-er-elw wedi caffael adeiladau’r Eglwys a’r Mans gerllaw i ddarparu capasiti ychwanegol.[2]

Enwi[golygu | golygu cod]

Enwyd Cultúrlann Uí Chanáin ar ôl yr ymgyrchydd Gwyddeleg ers amser maith, Seán O Canáinn. Fe’i hagorwyd yn swyddogol gan Eamon O Cuív, Gweinidog y Celfyddydau, Treftadaeth a’r Gaeltacht yn Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon (nid Llywodraeth Gogledd Iwerddon, noder) ar 4 Medi 2009 gyda rhaglen o ddosbarthiadau, cyrsiau, digwyddiadau a chyfleusterau. O fewn 12 mis roedd y sefydliad wedi tyfu'n rhy fawr i'r gofod hwn ac wedi mynd ati i brynu cyfleusterau ychwanegol.[2]

Canolfan Ddiwylliannol a'r Sector Mentergarwch Diwylliannol[golygu | golygu cod]

Enw Gwyddeleg ar gaffe, Caife Fáilte, yn rhoi sail i gweledigaeth hir-dymor y Cultúrlann i greu Cwarter Gaeltacht yn Derry
Arwydd stryd ddwyieithog yn Derri, yn dangos newid agwedd at yr iaith; Shipquay Street/Stráid Chá na Long. Diddorol nodi mai long yw'r gair Gwyddeleg am "llong" a bod y ddau air yn dod o wraidd Lladin nāvis longa[3] (2009)

Mae Cultúrlann Uí Chanáin yn darparu lle i fusnesau a grwpiau cysylltiedig megis Dearcán (cwmni cynhyrchu teledu Gwyddeleg), Ciste Infhestíochta Ghaeilge, Comhaltas Ceoltóiri Éireann, a Cumann na bPíobairí, ac economi seiliedig ar y celfyddydau yng Ngogledd Orllewin Iwerddon.

Mae'r ganolfan yn denu mwyafrif ei 126,000 o ddefnyddwyr blynyddol o ardal gogledd orllewin Iwerddon, fodd bynnag mae nifer cynyddol o ddefnyddwyr o'r tu allan i'r dalgylch naturiol hwn.[2]

Staffio[golygu | golygu cod]

Mae'r prosiect cyffredinol yn cynnwys rheoli 22 o gynlluniau, 36 o staff a gwirfoddolwyr a rhedeg 4 adeilad. Mae nifer y staff wedi cynyddu o 2 aelod o staff amser llawn yn 1998 i 20 o staff llawn amser, 6 aelod o staff rhan amser a hyd at ddeg o wirfoddolwyr neu leoliadau ar unrhyw adeg benodol.[2]

Dyheadau i'r dyfodol[golygu | golygu cod]

Mae'r fwriad troi 34 Great James Street, yn westy Gwyddeleg, gyda 12 ystafell ddwbl en-suite. Gobeithir prynu a datblygu adeilad arall yn Great James Street, Halla na nGael, mewn partneriaeth â Phrifysgol Ulster Magee, ar gyfer llety myfyrwyr Gwyddeleg.

Crëwyd Ardal Ddiwylliannol yn Great James Street, yn cynnwys Cultúrlann Uí Chanáin, An tAcadamh Ceoil, Halla na nGael a’r gwesty Gwyddeleg.

Creu Cwarter Gaeltacht yn Bogside, Brandywell a Creggan ar hyd llinellau y Cwarter Gaeltacht yng ngorllewin Belffast. Mae gwaith wedi dechrau ar arolwg cynhwysfawr o’r Ardal Gaeltacht i asesu galw a gofynion yr ardal ac i annog cyfranogiad gweithredol ymhlith trigolion yr ardal. Mae gwaith yn parhau gyda busnesau lleol i hybu’r defnydd o arwyddion dwyieithog yn y Chwarter, a gyda’r Gaelscoilau (ysgolion cyfrwng Gwyddeleg) ledled y ddinas i feithrin ymdeimlad o falchder ymhlith y plant.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cultúrlann Uí Chanáin About". Gwefan Discover Northern Ireland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-17. Cyrchwyd 2022-06-01.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "General Info". Gwefan Cultúrlann Uí Chanáin. 1 Mehefin 2022.
  3. "llong". Gwasg Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 2022-06-01.
  4. "Future Plans". Gwefan Cultúrlann Uí Chanáin. 1 Mehefin 2022.
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.