Biennale Fenis

Oddi ar Wicipedia
Biennale Fenis
Enghraifft o'r canlynolarddangosfa eilflwydd, gŵyl ffilm Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1895 Edit this on Wikidata
LleoliadCa' Giustinian, Giardini della Biennale, Venetian Arsenal Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHyperPavilion, Venice Biennale pavillion of Italy, 57th Venice Biennale, 58th Venice Biennale, 59th Venice Biennale Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifHistorical Archive of Contemporary Art Edit this on Wikidata
Map
Sylfaenyddcyngor dinas Fenis Edit this on Wikidata
Enw brodorolBiennale di Venezia Edit this on Wikidata
RhanbarthFenis Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.labiennale.org/en/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Biennale Fenis (Eidaleg: Biennale di Venezia) yn sefydliad dielw sy'n derbyn cymhorthdal ​​​​gan wladwriaeth yr Eidal trwy y Biennale Foundation.[1] Mae'n un o'r sefydliadau diwylliannol pwysicaf yn y byd. Cynhelir yn ninas Fenis.

Mae biennale wedi ei chynnal ers 1895, gan ei wneud y digwyddiad hynaf o'i bath.

Natur y Biennale[golygu | golygu cod]

John Cale, cynrychiolydd Cymru yn y Biennale yn 2009
Gerddi'r Biennale (Giardini della Biennale) Fenis

Mae prif arddangosfa y Biennale yn cael ei chynnal yn y Castello, yn neuaddau'r Arsenale a Gerddi'r Biennale (Giardini della Biennale), gan amnewid bob yn ail flwyddyn rhwng celf gain a phensaernïaeth. Oddi yma y daw'r enw biennale (sef "dwyflynyddol").[2][3][4] Cynhelir digwyddiadau eraill gan y Foundation - sy'n cynnwys theatr, cerddoriaeth a dawns. Cynhelir rhain yn flynyddol ar drawsy ddinas tra bod Gŵyl Ffilm Fenis yn cael ei chynnal ar y Lido.[5] Cychwynwyd yr Ŵyl Ffilm yn 1932.

Mae ei enw bob amser wedi cael ei ddefnyddio fel cyfystyr ar gyfer Arddangosfa Gelf Ryngwladol Fenis; ymhlith yr arddangosfeydd rhyngwladol hynaf, pwysicaf a mwyaf mawreddog o gelf gyfoes yn y byd.

Arddangosfa Gelf Ryngwladol Fenis a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Fenis yw’r digwyddiadau cyntaf a hynaf o’u bath.

Mae Biennale Fenis hefyd yn dathlu: Arddangosfa Bensaernïaeth Ryngwladol Fenis; Gŵyl Theatr Fenis; Gŵyl Ddawns Gyfoes Fenis a Gŵyl Cerddoriaeth Gyfoes Fenis.

Arddangosfa Gelf Ryngwladol Fenis[golygu | golygu cod]

Mae Arddangosfa Gelf Ryngwladol Fenis yn arddangosfa a gynhelir bob 2 flynedd gan Biennale Fenis. Mae gofod yr arddangosfa yn mesur dros 7,000 medr sgwâr, a ceir artistiaid o dros 75 gwlad eu cynrychioi yn y manau arddangos cydweithredol yn ogystal ag yn y pafiwlynau cenedlaethol.[6][7]

Wedi ei greu yn 1893, fe'i urddwyd yn swyddogol ar 22 Ebrill 1894. O 224,000 o ymweliadau yn ystod ei agoriad, i 320,000 o ymweliadau yn 2005 sy'n dynodi lefel ei atyniad. Yn 2019 ymwelodd 593,616 o bobl â'r Biennale, Biennale Arte.[8]

Dim ond ar ddau achlysur yr amharwyd arno: 1916 a 1918 oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf; 1942 a 1946 ar gyfer yr Ail Ryfel Byd.

Mae pob adran artistig yn dyfarnu enillydd ei chategori, a'r mwyaf adnabyddus yw'r arddangosfa sinematograffig a'i gwobr Llew Aur. Yn dilyn protestiadau myfyrwyr 1969, ni roddwyd gwobrau tan 1980 am yr arddangosfa ffilm a 1986 am yr arddangosfa gelf. Mae ganddo Archif Hanesyddol Celf Gyfoes (Archivio Storico delle Arti Contemporanee - ASAC 1930) fel ystorfa ddogfennol a chatalog o weithiau'r Biennale a'r ymadroddion artistig o 1895 hyd yn hyn.

O 1930 trosglwyddwyd y weinyddiaeth o'r Fwrdeistref i'r Wladwriaeth. Ym 1998, trwy archddyfarniad deddfwriaethol, rhoddwyd personoliaeth gyfreithiol iddo a daeth yn gorfforaeth breifat, y Società di Cultura La Biennale di Venezia. Mae addasiad arall yn 2003 yn ei drawsnewid yn sylfaen (La Biennale di Venezia) gyda'r posibilrwydd o dderbyn cyfraniadau gan unigolion.

Cymru yn y Biennale[golygu | golygu cod]

Arddangoswyd Cymru yn y Biennale 9 gwaith gan ddechrau yn 2003. Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n comisiynu, datblygu a rheoli Cymru yn Fenis, ond ni chafwyd cynrychiolaeth yn 2022 gan bod CCC yn ailystyried ein gwaith gyda’r Biennale a'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru.[9] Cafwyd cydweithio gyda chyrff eraill megis y Cyngor Prydeinig (British Council Cymru).[10]

Artistiaid Cymru yn y Biennale[golygu | golygu cod]

Dyma’r artistiaid a arddangosodd yno:

2003 - Cerith Wyn Evans, Bethan Huws, Simon Pope a Paul Seawright
2005 - Peter Finnermore, Laura Ford a Paul Granjon
2007 - Richard Deacon, Merlin James, Heather ac Ivan Morrison
2009 - John Cale[11]
2011 - Tim Davies
2013 - Bedwyr Williams
2015 - Helen Sear
2017 - James Richards
2019 – Sean Edwards [12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Activity Archives". Biennial Foundation (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-20.
  2. "Venues". La Biennale di Venezia (yn Saesneg). 2017-04-07. Cyrchwyd 2022-05-03.
  3. "Biennale Architettura 2021 | Homepage 2021". La Biennale di Venezia (yn Saesneg). 2019-01-11. Cyrchwyd 2022-05-03.
  4. "La Biennale di Venezia". La Biennale di Venezia (yn Eidaleg). 2017-02-20. Cyrchwyd 2022-05-03.
  5. "Organization". La Biennale di Venezia (yn Saesneg). 2017-04-24. Cyrchwyd 2022-05-03.
  6. "Giardini della Biennale". La Biennale di Venezia (yn Eidaleg). 2017-02-24. Cyrchwyd 2022-05-03.
  7. "Arsenale". La Biennale di Venezia (yn Eidaleg). 2017-02-24. Cyrchwyd 2022-05-03.
  8. "Cymru a Biennale Fenis". Gwefan Cyngor Celfyddydau Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-27. Cyrchwyd 27 Awst 2022.
  9. "Cymru a Biennale Fenis". Gwefan Cyngor Celfyddydau Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-27. Cyrchwyd 27 Awst 2022.
  10. "Cymru yn Fenis 2019". Gwefan British Council. 2019.
  11. "Biennale: Cale 'yn synnu'". BBC Cymru Fyw. 14 Rhagfyr 2008.
  12. "Mam yn helpu cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis". BBC Cymru Fyw. 10 Mai 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]