Crychddail mewndro
Crychddail mewndro Fossombronia incurva | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Fossombroniales |
Teulu: | Fossombroniaceae |
Genws: | Fossombronia |
Rhywogaeth: | F. incurva |
Enw deuenwol | |
Fossombronia incurva |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Crychddail mewndro (enw gwyddonol: Fossombronia incurva; enw Saesneg: weedy frillwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Fossombroniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon yn eitha prin ond mae i’w chanfod yng Nghymru ac yng ngweddill Prudain ac yn Iwerddon nifer o wledydd eraill.
Mae'r rhywogaeth ym yn y genws Fossombronia yn fach, yn werdd-felyn neu wyrdd-golau ac fel arfer yn llai na 5 mm o hyd. Mae'n digwydd naill ai fel coesyn yn codi ar ei ben ei hun, neu fel coesynnau mwy canghennog a all ffurfio matiau bach.
Cynefin
[golygu | golygu cod]Fe'i ceir ar bridd llaith neu dywodlyd neu ar raean ar ochr y ffordd, traciau, llwybrau a lloriau chwarel yn ogystal ag mewn safleoedd mwy naturiol fel ymylon llynnoedd a nentydd ac mewn twyni o dywod.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg/12px-Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c4/Llen-Natur-1-transparent.png/45px-Llen-Natur-1-transparent.png)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.