Crychddail cyffredin

Oddi ar Wicipedia
Crychddail cyffredin
Fossombronia pusilla
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Fossombroniales
Teulu: Fossombroniaceae
Genws: Fossombronia
Rhywogaeth: F. pusilla
Enw deuenwol
Fossombronia pusilla

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Crychddail cyffredin (enw gwyddonol: Fossombronia pusilla; enw Saesneg: common frillwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Fossombroniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon yn eitha cyffredin yng Nghymru a Lloegr, ac yn llai cyffredin yn yr Alban ac yn Iwerddon.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r Crychddail cyffredin (F. pusilla) o faint cyffredin (o fewn y genws yma), gyda'r coesynnau'n 5 mm o led, a'r dail yn 3 mm o led a 2.5 mm o hyd) ac yn wyrdd golau.

Mae'n debyg i letysen bychan ac mae ganddi egin bychan piws.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae safleoedd nodweddiadol yn cynnwys caeau sofl, traciau, llwybrau a theithiau coetir, clytiau moel mewn porfeydd a rhostiroedd, a chlogwyni môr sydd wedi'u dymchwel yma ac acw.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Crychddail cyffredin gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.