Crugiau crynion Porth Dafarch
Jump to navigation
Jump to search
| |
Daearyddiaeth | |
---|---|
Sir |
Ynys Môn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Dynodwr Cadw |
AN034 ![]() |
Crugiau crynion a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crugiau crynion Porth Dafarch , yng nghymuned Trearddur, Ynys Môn; cyfeiriad grid SH234800.
Cofrestrwyd y crugiau hyn gan Cadw a chaiff y cyntaf (Crug I) ei adnabod gyda'r rhif SAM: AN034.[1] Cafwyd hyd i weddillion dynol yn y tri chrug, gan gynnwys ysgerbwd plentyn a merch ifanc yn ei chwman.[2].
Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[3]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ Gwefan Coflein
- ↑ "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-14.