Crug Bwlch-du

Oddi ar Wicipedia

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug Bwlch-du, yng nghymuned Nantglyn, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SH989580.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'm mesur 11 metr mewn diamedr ac mae'n 1.2m o uchder. Fe'i cloddiwyd rhwng 1973 ac 1975 a chafodd deunydd o'i grombil ei ddydio drwy ddull dyddio carbon i 2140 C.C. Ceir modrwy o gerrig a meini sylweddol o'i amgylch.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE085.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-07.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]