Cro-Magnon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Hen ŵr Cro-Magnon", Musée de l'Homme, Paris.
Offer llaw Cro-Magnon – Casgliad Louis Lartet

Hen enw cyffredin (nid enw gwyddonol) yw Cro-Magnon a ddefnyddir i ddisgrifio bodau dynol (Homo sapiens sapiens) cynnar a oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig Uchaf Ewropeaidd. Y term cyfoes yw "Bodau dynol modern, Ewropeaidd" (European early modern humans (EEMH). Gan mai enw cyffredin ydyw Cro-Magnon nid oes iddo statws tacsonomegol ffurfiol.[1]

Canfuwyd gweddillion pobl Cro-Magnon yn yr Eidal ac yng ngwledydd Prydain, ac fe'i dyddiwyd gan ddyddio radiocarbon i rhwng 43,000 a 45,000 cyn y presennol (CP).[2][3] Cafwyd hyd i weddillion Pro-Magnon hefyd yn Yr Arctig Rwsiaidd a ddyddiwyd i 40,000 CP.[4][5]

O ddadansoddi'r esgyrn a ganfuwyd, gwyddwn fod Cro-Magnon yn gryf, trwm gyda thalcen syth ac wyneb llydan a byr. Roedd ei ên yn amlwg iawn a'i ymennydd oddeutu 1,600 cc - mwy na bodau dynol modern.[6]

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Canfuwyd gweddillion cyntaf Cro-Magnon yma yn Abri de Cro-Magnon, yn 1868.

Daw'r enw o le o'r enw Abri de Cro-Magnon ("abri" yw'r gair Ffrangeg am "gysgod craig", "cro" yw'r Ocsitaneg am "dwll" neu "wagle"[7] a "Magnon" oedd enw perchennog y tir ar y pryd. Saif ym mhentref bychan Les Eyzies yng nghymuned Les Eyzies-de-Tayac-Sireuil yn ne-orllewin Ffrainc, ble y canfuwyd y gweddillion cyntaf. Oherwydd y cysylltiad agos gyda dyn modern (Homo sapiens sapiens), cysylltir paentiadau Ogof Lascaux.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Fagan, B.M. (1996). The Oxford Companion to Archaeology. Oxford, UK: Oxford University Press. p. 864. ISBN 978-0-19-507618-9. 
  2. Benazzi, S.; Douka, K.; Fornai, C.; Bauer, C. C.; Kullmer, O.; Svoboda, J. Í.; Pap, I.; Mallegni, F. et al. (2011). "Early dispersal of modern humans in Europe and implications for Neanderthal behaviour". Nature 479 (7374): 525. Bibcode 2011Natur.479..525B. doi:10.1038/nature10617. PMID 22048311.
  3. Higham, T.; Compton, T.; Stringer, C.; Jacobi, R.; Shapiro, B.; Trinkaus, E.; Chandler, B.; Gröning, F. et al. (2011). "The earliest evidence for anatomically modern humans in northwestern Europe". Nature 479 (7374): 521. Bibcode 2011Natur.479..521H. doi:10.1038/nature10484. PMID 22048314.
  4. doi:10.1038/35092552
    This citation will be automatically completed in the next few minutes. You can jump the queue or expand by hand
  5. https://notendur.hi.is/oi/AG-326%202006%20readings/Russian%20Arctic/Svendsen_MAMMOTH2003.pdf
  6. "Cro-Magnon". Encyclopædia Britannica Online. Adalwyd Hydref 2010.  Check date values in: |access-date= (help)
  7. "Cros". http://www.etymologie-occitane.fr/2011/07/cros/. Adalwyd 2014-08-15.