Costa Smeralda

Oddi ar Wicipedia
Costa Smeralda
Matharfordir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSardinia Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Cyfesurynnau41.1°N 9.5°E, 41.1°N 9.5°E Edit this on Wikidata
Map

Ardal arfordirol sy'n gyrchfan i dwristiaid cefnog yng ngogledd Sardinia, yr Eidal, yw Costa Smeralda ("Arfordir Emrallt"). Yn wreiddiol dynododd yr enw ddarn bach yr arfordir yng nghymuned Arzachena, ond bellach mae'n ymestyn am tua 20 cilometr o Capo Ferro – a leolir ychydig i'r gogledd o Porto Cervo – i Golfo Cugnan yn y de.

Ardal wedi'i llinellu = Costa Smeralda yn 1992

Mae ganddi draethau tywod gwyn, clybiau golff, gwasanaethau hofrennydd a jet preifat, a gwestai ffasiynol. Mae'r ardal yn denu enwogion, arweinwyr busnes a gwleidyddol, ac ymwelwyr cefnog eraill. Dechreuodd datblygiad yr ardal yn 1961, ac fe'i hariannwyd gan gonsortiwm o gwmnïau dan arweiniad y Tywysog Karim Aga Khan.

Cychod hwylio wedi'u hangori ym marina Porto Cervo

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]