Cornllys mannog

Oddi ar Wicipedia
Cornllys mannog
Anthoceros punctatus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Anthocerotopsida
Urdd: Anthocerotales
Teulu: Anthocerotaceae
Genws: Anthoceros
Rhywogaeth: A. punctatus
Enw deuenwol
Anthoceros punctatus

Math o blanhigyn, di-flodau, brÿoffyt ac un o lysiau'r afu yw Cornllys mannog (enw gwyddonol: Anthoceros punctatus; enw Saesneg: dotted hornwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Anthocerotales, o fewn y dosbarth Anthocerotopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Nghymru (e.e. Parc Fforest Afan) ac yn Iwerddon.[1]

Fel arfer, mae'r thali di-draidd, crwn, gwyrdd tywyll yn 2-3 cm ar draws, yn edrych fel ffrils, ac fel arfer mae ganddynt gefnennau a chribau amrywiol ar yr wyneb uchaf. Dim ond trwy fesur dimensiynau'r organau gwrywaidd y gellir gwahaniaethu rhwng Cornllys mannog a Chornllys y maes (Anthoceros agrestis). Mae sborau aeddfed ar ben y cyrn yn ddu yn y ddwy rywogaeth.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae'r Cornllys mannog a Chornllys y maes i'w cael mewn caeau sofl llaith, tir braenar, ymylon ffosydd, traciau coetir a chorneli caeau. Yn gyffredinol, mae Cornllys mannog yn amlach yng ngorllewin Iwerddon a Chornllys y maes yn y dwyrain.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Cornllys mannog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. southwalesbryos.blogspot.com; adalwyd 5 Mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.