Corhedydd y coed

Oddi ar Wicipedia
Corhedydd y Coed
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Motacillidae
Genws: Anthus
Rhywogaeth: A. trivialis
Enw deuenwol
Anthus trivialis
(Linnaeus, 1758)
Cuculus canorus canorus + Anthus trivialis
Anthus trivialis trivialis

Mae Corhedydd y Coed (Anthus trivialis) yn aelod o deulu'r Motacillidae, sy'n cynnwys y siglennod yn ogystal a'r corhedyddion.

Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin a chanol Asia.Mae'n aderyn mudol, sy'n symud i Affrica a de Asia dros y gaeaf.

Fel y rhan fwyaf o'r corhedyddion mae'n aderyn brown ar y cefn a gwyn gyda marciau duon ar y fron a'r bol. Gall fod yn anodd ei wahaniaethu oddi wrth Gorhedydd y Waun sydd fymryn yn llai. Mae gan Gorhedydd y Coed big ychydig yn fwy, llinell welw fwy amlwg uwchben y llygad a bol gwynnach. Pan mae'n canu mae'n haws ei wahaniaethu, gan fod y gân yn gryfach ac yn fwy amrywiol. Mae'n canu o'r awyr, gan godi'n weddol uchel ac yna dod i lawr dan ganu. Adeiledir y nyth ar lawr, ond fel rheol mae'n nythu mewn mannau lle mae ychydig o goed neu lwyni. Pryfed yw'r prif fwyd ond gall fwyta hadau hefyd.

Mae'n aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, yn enwedig ar lethrau isaf y mynyddoedd, ond nid yw'n adnabyddus iawn, efallai oherwydd ei fod yn anodd gwahaniaethu rhyngddo a'r corhedyddion eraill.