Confensiwn Gweithwyr Mudol
Mae'r Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu Hawliau Pob Gweithiwr Mudol ac Aelodau o'u Teuluoedd yn gytundeb amlochrog y Cenhedloedd Unedig sy'n amddiffyn gweithwyr mudol a'u teuluoedd. Fe'i llofnodwyd ar 18 Rhagfyr 1990, a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 2003 ar ôl i'r trothwy o 20 Gwladwriaeth gael ei gyrraedd ym Mawrth 2003. Mae'r Pwyllgor ar Weithwyr Mudol (CMW) yn monitro gwaith y confensiwn, ac mae'n un o'r saith corff sy'n ymwneud â hawliau dynol, sy'n gysylltiedig â'r Cenhedloedd Unedig. Roedd y confensiwn yn Nhachwedd 2022 yn berthnasol mewn 59 o wledydd gan gynnwys Cymru.[1]
Ar 9 Tachwedd 2002 ysgrifennodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, mewn adroddiad:
“ | Mae'n bryd edrych yn fwy cynhwysfawr ar wahanol ddimensiynau o fudo, sydd bellach yn cynnwys cannoedd o filiynau o bobl, ac yn effeithio ar wledydd tarddiad, tramwy a chyrchfan y bobl hyn. Mae angen i ni ddeall yn well llif pobl, yn rhyngwladol, a'u cydberthynas gymhleth â datblygiad.[2] | ” |
Trosolwg
[golygu | golygu cod]Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn gytundeb rhyngwladol cynhwysfawr ynghylch diogelu hawliau gweithwyr mudol. Mae'n pwysleisio'r cysylltiad rhwng ymfudo a hawliau dynol, sy'n dod yn gynyddol yn bwnc polisi hollbwysig ledled y byd. Nod y Confensiwn yw amddiffyn gweithwyr mudol ac aelodau o'u teuluoedd; mae ei fodolaeth yn gosod safon foesol, ac yn gwasanaethu fel canllaw ac ysgogiad i hyrwyddo hawliau ymfudol yn mhob gwlad.
Yn y Rhagymadrodd, mae'r Confensiwn yn dwyn i gof gonfensiynau gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ar weithwyr mudol : Confensiwn Ymfudo i Gyflogaeth (Diwygiedig), 1949, Confensiwn Gweithwyr Mudol (Darpariaethau Atodol), 1975, ac ar lafur gorfodol; Confensiwn Llafur Dan Orfod a Diddymu Confensiwn Llafur Dan Orfodaeth yn ogystal â chytundebau hawliau dynol rhyngwladol gan gynnwys Confensiwn yn erbyn Gwahaniaethu o fewn Addysg.
Prif amcan y Confensiwn yw meithrin parch at hawliau dynol ymfudwyr. Nid gweithwyr yn unig yw ymfudwyr, maen nhw hefyd yn fodau dynol. Nid yw'r Confensiwn yn creu hawliau newydd ar gyfer ymfudwyr ond mae'n anelu at warantu triniaeth deg, cyfartal, a'r un amodau gwaith, gan gynnwys gwaith dros dro, ar gyfer mudwyr a gwladolion. Mae'r Confensiwn yn arloesi oherwydd ei fod yn dibynnu ar y syniad sylfaenol y dylai pob ymfudwr gael mynediad at yr hawl i gael ei amddiffyn. Mae'r Confensiwn yn cydnabod bod gan fudwyr rheolaidd fwy o hawliau na mewnfudwyr afreolaidd ac anghyfreithlon, ond mae'n pwysleisio bod yn rhaid i hawliau dynol sylfaenol ymfudwyr afreolaidd gael eu parchu, fel pob bod dynol.
Yn y cyfamser, mae'r Confensiwn yn cynnig bod camau'n cael eu cymryd i ddileu ymfudo cudd, drwy'r frwydr yn erbyn gwybodaeth gamarweiniol sy'n cymell pobl i ymfudo'n afreolaidd, a thrwy sancsiynau yn erbyn masnachwyr-pobl a chyflogwyr mudwyr heb ddogfennau.
Mae Erthygl 7 o'r Confensiwn hwn yn diogelu hawliau gweithwyr mudol a'u teuluoedd ni waeth beth fo'u rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd neu argyhoeddiad, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol, ethnig neu gymdeithasol, cenedligrwydd, oedran, sefyllfa economaidd, eiddo, statws priodasol, genedigaeth, neu statws arall”.[3] Mae Erthygl 29 yn diogelu hawliau plant gweithiwr mudol i gael eu henwi, i gofrestru genedigaeth ac i genedligrwydd.
Pleidiau a llofnodwyr
[golygu | golygu cod]Yn Awst 2021 mae gwledydd sydd wedi cadarnhau'r Confensiwn yn wledydd lle tardd ymfudwyr yn bennaf e.e. Mecsico, Moroco, a'r Philipinau. Ar gyfer y gwledydd hyn, mae'r Confensiwn yn gyfrwng pwysig i amddiffyn eu dinasyddion sy'n byw dramor. Yn y Pilipinas, er enghraifft, cadarnhawyd y Confensiwn mewn cyd-destun a nodweddwyd gan nifer o achosion o weithwyr Ffilipinaidd yn cael eu cam-drin dramor: roedd achosion o'r fath yn brifo'r boblogaeth Ffilipinaidd ac yn ysgogi cadarnhau'r Confensiwn. Fodd bynnag, mae'r gwledydd hyn hefyd yn wledydd tramwy ac yn gyrchfannau, ac mae'r Confensiwn yn amlinellu eu cyfrifoldeb i amddiffyn hawliau ymfudwyr yn eu tiriogaeth, ac nid ydynt wedi gwneud fawr ddim i amddiffyn y rheini gartref.[4][5]
Nid oes unrhyw wladwriaeth sy'n derbyn ymfudwyr yng Ngorllewin Ewrop na Gogledd America wedi cadarnhau'r Confensiwn. Nid yw gwledydd derbyn mudwyr e.e. Awstralia, gwladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia, India na De Affrica wedi cadarnhau'r Confensiwn.
|
Allwedd | Poblogaeth | Canran |
---|---|---|
Partion | 1,809,852,000 | 23.22 |
Arwyddwyd | 83,145,000 | 1.07 |
Heb arwyddo | 5,901,802,000 | 75.71 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "13. International Convention on the Protection of the Rights of All Migrant Workers and Members of their Families. New York, 18 Rhagfyr 1990". UN Treaty base. Cyrchwyd 2 Awst 2021.
- ↑ "United Nations Maintenance Page". www.un.org. Cyrchwyd 2 Ionawr 2020.
- ↑ Kinnear, Karen L. (2011). Women in Developing Countries: A Reference Handbook. ABC-CLIO. tt. 184. ISBN 9781598844252.
- ↑ Palmer, Wayne; Missbach, Antje (2019-05-04). "Enforcing labour rights of irregular migrants in Indonesia" (yn en). Third World Quarterly 40 (5): 908–925. doi:10.1080/01436597.2018.1522586. ISSN 0143-6597.
- ↑ Palmer, Wayne (2018). "Back Pay for Trafficked Migrant Workers: An Indonesian Case Study" (yn en). International Migration 56 (2): 56–67. doi:10.1111/imig.12376.
- ↑ "World Population Prospects 2019: Volume I: Comprehensive Tables" (PDF). United Nations. 2019. tt. 23–32. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 9 Chwefror 2022. Cyrchwyd 13 Chwefror 2022.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Testun llawn y Confensiwn (Saesneg)
- Testun llawn y Confensiwn (Sbaeneg)
- Llofnodion a chadarnhadau
- Y Pwyllgor ar Weithwyr Mudol (sy'n monitro gweithrediad y confensiwn)
- Adroddiad Ymfudo Rhyngwladol 2002 a gyhoeddwyd gan Adran Materion Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig/Is-adran Poblogaeth
- Rapporteur Arbennig ar Hawliau Dynol Mudwyr
- Rhaglen UNESCO ar Ymfudo Rhyngwladol a Pholisïau Amlddiwylliannol: Prosiect ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Ymfudwyr
- Sefydliad Llafur Rhyngwladol
- Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Ymfudo
- Hawliau Mudwyr Rhyngwladol
- Fforwm Ymfudwyr yn Asia
- Datganiad ar Hawliau Personau sydd wedi'u Diarddel a'u Alltudio