Colomen wyllt

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Colomen Wyllt)
Colomen Wyllt
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Columbiformes
Teulu: Columbidae
Genws: Columba
Rhywogaeth: C. oenas
Enw deuenwol
Columba oenas
Linnaeus, 1758

Aderyn o deulu'r colomennod, Columbidae, yw'r Golomen Wyllt (Columba oenas). Mae'n byw mewn coetir a ffermdir ar draws Ewrop ac yng ngogledd-orllewin Affrica, gorllewin Siberia a rhannau o dde-orllewin a chanolbarth Asia. Mae'n dodwy un neu ddau ŵy gwyn mewn twll mewn coeden, adeilad neu glogwyn.[1] Mae'n bwydo ar hadau, dail, blagur a blodau gan amlaf.[1]

Mae'n 32–34 cm o hyd ac mae'n pwyso 250-350 g.[1] Mae ganddi blu llwydlas gyda darn gwyrdd gloyw ar y gwddf. Yn yr awyr, mae gan ei hadenydd ymylon du ac mae darn llwydlas golau yng nghanol yr adenydd. Mae'r Golomen Wyllt yn debyg i'r Ysguthan ond yn llai a does ganddi ddim darnau gwyn ar yr adenydd a gwddf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Snow, D. W. & C. M. Perrins (1998) The Birds of the Western Palearctic: Concise Edition, Vol. 1, Oxford University Press, Rhydychen.
Safonwyd yr enw Colomen wyllt gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.


Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.