ColegauCymru
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad elusennol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1995 |
Pencadlys | Tongwynlais |
Mae ColegauCymru yn elusen addysg sy'n hyrwyddo budd cyhoeddus addysg bellach yng Nghymru. Mae'n gorff dielw a arweinir gan aelodau a sefydlwyd ym 1995 gan golegau Addysg Bellach (AB), i gynrychioli a hyrwyddo eu diddordebau ac addysg ôl-16. Mae pencadlys ColegauCymru yn Nhongwynlais ger Caerdydd.
Mae hefyd yn ymgynnull Fforwm Penaethiaid Addysg Bellach, sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr addysg bellach.
Prif Weithredwr y corff yn 2023 oedd David Hagendyk a'r Cadeirydd oedd Guy Lacey o Goleg Gwent.[1]
Cennad
[golygu | golygu cod]Dywed cennad y corff eu bod yn credu fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.[2]
Mae'n bwriadu angos gwerth addysg bellach i'r holl ddysgwyr, y gymdeithas a'r economi.
Enw
[golygu | golygu cod]Er bod yr enw'n uniaith Gymraeg, mae'r corff yn gweithredu'n ddwyieithog ac yn darparu gwasanaeth ddwyieithog. Ysgrifennir enw'r corff fel un gair, 'ColegauCymru', ac nid fel 'Colegau Cymru'.
Aelodau
[golygu | golygu cod]Mae ColegauCymru'n cynnwys yr aelodau isod:[3]
- Coleg Ceredigion (sydd bellach yn rhan o Goleg Sir Gâr)
- Addysg Oedolion Cymru (Adult Learning Wales, uniad o'r hen Goleg Harlech a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr)
- Coleg Penybont
- Coleg Cambria
- Coleg Caerdydd a'r Fro
- Coleg Sir Gâr
- Coleg y Cymoedd
- Coleg Merthyr Tudful
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Grŵp Llandrillo Menai
- Coleg Gwent
- Grŵp Colegau NPTC
- Coleg Sir Benfro
- Coleg Catholig Dewi Sant (coleg chweched dosbarth Caerdydd)
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Gwasanaethau Fforwm
[golygu | golygu cod]Mae Fforwm Services Ltd yn gwmni cyfyngedig preifat ac yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Colegau Cymru. Mae'n blatfform ar gyfer cynnal gweithgareddau masnachol ac i ennill incwm su'n caniatau inni hwyluso digwyddiadau, hyfforddiant a chynadleddau yn benodol i'r sector.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Staff". Gwefan ColegauCymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
- ↑ "Pwy Ydym Ni". gwefan Colegau Cymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
- ↑ "Aelodau". Gwefan ColegauCymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
- ↑ "Pwy Ydym Ni". gwefan Colegau Cymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan ColegauCymru (Cymraeg)
- @ColegauCymru ar Twitter