Neidio i'r cynnwys

Coleg Caerdydd a'r Fro

Oddi ar Wicipedia
Coleg Caerdydd a'r Fro
Enghraifft o:coleg addysg bellach Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2011 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysColeg Glan Hafren, Y Rhodfa, Llyfrgell Parade, Coleg Caerdydd a'r Fro, Llyfrgell Barri, Coleg Caerdydd a'r Fro, City Centre Library, Cardiff & Vale College Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cavc.ac.uk/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
QuoraCardiff-and-vale-college edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro (Saesneg: Cardiff and Vale College, CAVC), yn goleg Addysg Bellach addysg rhyw cymysg yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae'n rhan o rwydwaith y sector, ColegauCymru.

Ffurfiwyd y coleg ym mis Medi 2011 drwy uno Coleg y Barri a Choleg Glan Hafren . Roedd yr uno o ganlyniad i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn annog colegau yng Nghymru i gydweithio er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i fyfyrwyr.[1] Mae Coleg Caerdydd a'r Fro bellach yn un o golegau mwyaf Cymru. Cymerodd y Coleg reolaeth o Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd o fis Gorffennaf 2015 ar rent rhad i Gyngor Caerdydd.[2] Ceir bellach 7 campws i'r Coleg yng Nghaerdydd a'r Barri.

Campysau newydd

[golygu | golygu cod]

Yn 2015 agorwyd prif gampws newydd gwerth £45 miliwn yn Heol Dumballs, Caerdydd, i ddarparu ar gyfer 4,000 o fyfyrwyr. Roedd y cyfleusterau’n cynnwys 130 o ystafelloedd addysgu, stiwdios ffilm a dawns, theatr, salon gwallt a sba ac, ar y llawr uchaf, bar cyhoeddus a bwyty.[3] Ar ôl gwerthu eu prif safle yng Nghaerdydd yn City Road, Caerdydd, bwriad y coleg oedd cadw eu campws arall yng Nghaerdydd, yn Trowbridge a’i drosi i fod yn goleg celf.[3]

Coleg Caerdydd a'r Fro a'r Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Mae'r Coleg yn ymrwymo i Safonau’r Gymraeg fel y cytunwyd arnynt gyda Comisiynydd y Gymraeg. Mae hyn yn ymwneud â sichrau elfen o ddefnydd o'r Gymreag yn gorfforolaethol ac wrth ddelio gyda'r Coleg.[4] Serch hynny, Saesneg yn unig yw unig gyfrwng y rhelyw helaeth o'r cyrsiau, er, gyda chydweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er dechrau'r 2020 mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi dechrau o dan gynllun Siarad Dysgu Byw. Bwriad y cynllun yw cynyddu'r nifer o gyrsiau a modiwlau dwyieithog a gynigir fel rhan o bob cwrs, ar bob campws CAVC, ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio cwrs llawn amser neu ran amser neu brentisiaeth.[5]

Ym mis Mawrth 2023 lansiodd Coleg Caerdydd a'r Fro a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gynllun Perthyn ar gyfer siaradwyr Cymraeg ifanc Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn y Senedd. Roedd cyfle i’r dysgwyr oedd rhwng 16 a 19 oed glywed am gynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu cenedl wrth-hiliol ac i glywed profiadau a barn rhai o wynebau cyfarwydd Cymru gan gynnwys y newyddiadurwr, Iolo Cheung; y rapiwr, Sage Todz; y cyflwynydd teledu, Melanie Owen; y myfyriwr ôl-radd ac ymgyrchydd gwrth-hiliaeth, Emily Pemberton a Nooh Omar Ibrahim sy’n gweithio fel Swyddog Datblygu Amrywiaeth a Chynhwysiant gydag Urdd Gobaith Cymru.[6]

Prif adeilad campws Canol y Ddinas
Prif adeilad campws Canol y Ddinas 
Canolfan hyffroddiant gwaith Awtomotif
Canolfan hyffroddiant gwaith Awtomotif 
Canolfan hyfforddiant Adeiladwaith
Canolfan hyfforddiant Adeiladwaith 
Canolfan Gwasanaethau Adeiladu ar Ffordd Dumballs
]
Canolfan Gwasanaethau Adeiladu ar Ffordd Dumballs] 
The Parade (safle Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf yn yr 1970au)
The Parade (safle Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf yn yr 1970au) 
Stadiwm Chwaraeon Ryngwladol Caerdydd
Stadiwm Chwaraeon Ryngwladol Caerdydd 
Campws y Barri
Campws y Barri 

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 19 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 31 Mawrth 2011.CS1 maint: archived copy as title (link)
  2. "Plans to rent Cardiff International Sports Stadium to Cardiff and Vale College are approved". Media Wales. 19 Mawrth 2015. Cyrchwyd 29 Medi 2016.
  3. 1 2 Sion Barry (17 Mehefin 2015). "First look inside Cardiff and Vale College's new £45m campus in the centre of the capital". Wales Online. Cyrchwyd 19 Awst 2017.
  4. "Cymraeg". cavc.ac.uk. Cyrchwyd 2023-05-24.
  5. "Siarad Dysgu Byw". cavc.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-24. Cyrchwyd 2023-05-24.
  6. "Coleg Cymraeg Cenedlaethol | Lansio "Perthyn" – prosiect ar y cyd rhwng y Coleg a Choleg Caerdydd a'r Fro". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 24 Mai 2023.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]