Sage Todz

Oddi ar Wicipedia
Sage Todz
Galwedigaethrapiwr Edit this on Wikidata

Rapiwr a chyfansoddwr caneuon rap o Gymro yw Sage Todz (ganwyd Eretoda Ogunbanwo[1]). Cafodd llawer o sylw yn y cyfryngau Gymraeg ym Mawrth 2022 ar ôl iddo rhyddhau fideo ohono'n rapio yn ddwyieithog.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Sage Todz yn Essex. Symudodd ei deulu i Ben-y-groes yng Ngwynedd yn 2007. Bu rhaid iddo ddioddef hiliaeth pan oedd yn ifanc ond dywedodd nad oedd wedi derbyn yr un fath o broblemau yng Nghymru.[2]

Ond cafodd y teulu un digwyddiad hiliol pan wnaeth swastica gael ei baentio tu allan i'w gartref yn 2020. Cafodd dyn ei arestio bryd hynny.[3]

Aeth Sage i astudio chwaraeon ym Mhrifysgol Brunel Llundain. Mae'n dweud bod yna lawer o wahaniaethau rhwng Llundain a Gwynedd wledig. Dechreuoedd gyfansoddi math arbennig o rapio, sef "Drill". Drill yw is-genre o rap Prydeinig sydd yn defnyddio curiadau drymiau cyflym i greu cerddoriaeth egnïol.[1] Mae'r arddull yn wreiddiol o Chicago yn yr Unol Daleithiau, ac mae trosedd, trais a thywyllwch realiti bywyd yn un o brif themâu'r genre.[1]

Mae ei hunaniaeth Gymraeg a Chymreig yn bwysig iddo. Dywedodd "Mae'n darn o pwy ydyw i", gan ei fod wedi "byw yna [yng Nghymru] ers dros 15 o flynyddoedd a dwi'n siarad y iaith."[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Sengl Rownd a Rownd[golygu | golygu cod]

Rhyddhaodd Sage fideo ar-lein ohono fe'n "drilio" ei rap newydd Rownd a Rownd ym Mawrth 2022. Mae mwyafrif o'r darn yn yr iaith Gymraeg, a daeth yn fideo poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Hyd at Ebrill 2022 cafodd y fideo ei weld dros 209,000 o weithiau ar Twitter.[4]

Dywedodd bod angen mwy o gerddoriaeth Gymraeg yn genres sydd ddim gyda llawer o gynnwys Cymraeg ar hyn o bryd. Dyweodoedd byddai'n fodd i hybu'r iaith i bobl ifanc.[1]

Oherwydd ei poblogrwydd cafodd y fersiwn llawn gyda fideo cerddoriaeth ei rhyddhau ar sianel YouTube Lŵp S4C.[5]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Perfformiodd Sage gyda'r "Avengers Rap Cymraeg" ar Faes B yn Eisteddfod Genedlaethol 2022.

Yng Ngorffennaf 2023 dywedodd nad oedd yn gallu perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno am nad oedd yn medru cydymffurfio a'r rheol iaith, am fod ei ganeuon yn ddwyieithiog ac yn cynnwys geiriau Saesneg. Cadarnhawyd hynny gan yr Eisteddfod gan ddatgan eu bod yn awyddus i roi llwyfan iddo yn yr Eisteddfod, ac wedi bod mewn trafodaeth gyda Sage ond heb ddod i gytundeb ar ddefnydd iaith.[6]

Cyhoeddwyd yn ddiweddarach fod Sage am fod yn rhan o dîm cyflwyno rhaglenni teledu S4C o'r Eisteddfod yn 2023.[7]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Albwm Label
2022 Sage Mode HUMBLEVICTORIES/Different Bread

Senglau ac EPs[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Cân Label
2022 Rownd a Rownd HUMBLEVICTORIES/Different Bread
2021 DANGEROUS
Raindrops in the Summer
Come & Chill
Move
Aurum Noir
Careful/ Learning HUMBLEVICTORIES
2020 Blessed
Sparetime (EP)
Reverse

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Amser i gerddoriaeth Gymraeg arbrofi gyda genres newydd". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 2022-04-05.
  2. "Y gân 'drill' Gymraeg sydd wedi mynd yn feiral". BBC Cymru Fyw. 2022-03-09. Cyrchwyd 2022-04-05.
  3. "Arestio dyn mewn cysylltiad â graffiti swastika Penygroes". BBC Cymru Fyw. 2020-06-16. Cyrchwyd 2022-04-05.
  4. "Ever wondered what Welsh Drill would sound like? Well here you go". Trydar (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-05.
  5. "Sage Todz yn rhyddhau fersiwn lawn a fideo o'i gân 'Rownd a Rownd' wedi i glip ohoni fynd yn feiral". Golwg360. 2022-04-01. Cyrchwyd 2022-04-05.
  6. "Sage Todz ddim yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd polisi iaith y Brifwyl". newyddion.s4c.cymru. 2023-07-22. Cyrchwyd 2023-07-22.
  7. "Sage Todz yn un o gyflwynwyr rhaglenni'r Eisteddfod Genedlaethol ar S4C". newyddion.s4c.cymru. 2023-07-21. Cyrchwyd 2023-07-22.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]