Cofiant a phregethau y Parch Evan Harries, Merthyr

Oddi ar Wicipedia

Mae Cofiant a phregethau y Parch Evan Harries, Merthyr, gan Thomas Levi yn gofiant a gyhoeddwyd gan yr argraffydd T. R. Jones, Yn swyddfa y Monitor Ohio ym 1870.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes Evan Harries (7 Mawrth, 178620 Tachwedd, 1861), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Roedd yn bensaer o ran ei grefft ac yn fwy nodedig am y nifer o gapeli yn Sir Forgannwg a adeiladwyd o dan ei arolygiaeth nac am ei bregethau.[2]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r cofiant yn cychwyn trwy sôn am hanes Harries fel plentyn yn cael ei fagu ger Llanwrtyd. Er bod ei rieni yn selog gyda'r Annibynwyr lleol, ni wnaethant fagu Harries mewn pethau crefydd. Ceir hanes Harries yn dysgu bod yn saer gan ei dad cyn symud oddi cartref yn 17 mlwydd oedi weithio ei grefft rhywle yn Sir Faesyfed oedd "yn hollol ddigrefydd ac annuwiol". Yn Sir Faesyfed fe fu'n byw bywyd anfoesol heb dywyllu drws lle o addoliad. Yn ugain mlwydd oed dychwelodd i Lanwrtyd gan ddechrau mynychu ysgol Sul yno. Tua 6 mlynedd yn ddiweddarach cafodd tröedigaeth pan fu diwygiad yn yr ardal. Dechreuodd bregethu ym 1814 dan anogaeth ei dad yng nghyfraith a oedd yn weinidog. Mae' cyfrol yn mynd ymlaen i adrodd hanes ei ordeinio yn Llanwrtyd ym 1826 a'i gwaith fel gweinidog yn Aberhonddu, yn Nowlais ac ym Merthyr Tudful gan gyfeirio at ei waith yn arolygu adeiladu capeli yn y sir a chodi arian i dalu am eu hadeiladu. Wedi son am ei farwolaeth a dod ar adran gofiannol i ben ceir englynion coffa iddo gan William Morgan, Aberdâr, pennod yn disgrifio ei nodweddion fel pregethwr a phennod am ei ffraethineb. Daw'r llyfr i ben gydag enghreifftiau o 19 o'i bregethau ac ychydig o bigion o'i ysgrifau. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[3]

Penodau[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:

  1. Ei ddyddiau boreol
  2. Ei hanes fel dyn cyhoeddus
  3. Ei nodweddion fel pregethwr
  4. Lloffion o'i sylwadau a'i Ffraethineb

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Levi, Thomas (1870). Cofiant a phregethau y Parch. Evan Harries, Merthyr. Ohio: T. R. Jones, Yn swyddfa y Monitor.
  2. "HARRIES, EVAN (1786 - 1861), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-28.
  3. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.