Coedwig Clocaenog
Math | coetir |
---|---|
Enwyd ar ôl | Clocaenog |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych, Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.065°N 3.4789°W |
Saif Coedwig Clocaenog yng ngorllewin Sir Ddinbych.
Mae'n gorchuddio ardal 40 milltir sgwar (100 km²), yn bennaf wedi ei chyfansoddi o goed conwydd meddal. Mae'r goedwig dan reolaeth y Comisiwn Coedwigaeth, planwyd hi yn 1905 ar dir a oedd gynt yn dir gwaun a fferm. Mae'n ardal ucheldir, y rhan fwyaf uwchben 350 medr. Dioddefodd ei gaeaf caletaf yn 1946/1947 pan ddisgynodd eira trwm, mesurodd y gorchudd dros 150 cm o ddyfnder yng Nghlawddnewydd gerllaw, bu gaeaf arall caled yn 1962/1963. Hon hefyd yw cadarnle olaf y wiwer goch yng Nghymru.[1].
Mae'r goedwig yn wych ar gyfer cerdded, mae ganddi nifer o lwybrau clir. Mae pwyntiau uchel sy'n codi uwchben lefel y coed yn cynnig golygfeydd o Eryri a'r Arenig Fawr i'r gorllewin a mynyddoedd Berwyn i'r de, Bryniau Clwyd i'r dwyrain a gweunydd Dinbych i'r gogledd. Mae'r bywyd gwyllt yn cynnwys adar megis y Gylfin Groes sydd wedi addasu'n dda i'r conwydd. Mae hefyd ardal caedig ar gyfer ceffylau gwyllt a sawl esiampl o weddillion hynafol, gan gynnwys o leiaf un cylch gerrig a safle addoli hynafol 'credstone'.
Mae nentydd yn rhedeg drwy'r goedwig a gorweddai Llyn Brenig i'r gorllewin, yno mae rhaeadr ysblennydd.
Datblygiad diweddar yn y goedwig oedd adeiladu fferm wynt yn 2005 gyda 25 tyrbin gwynt, mae cynlluniau ar gyfer adeiladu rhagor o dyrbinau.[2]
Gellir dod o hyd i Croes Rhyd-y-beddau sydd yn adnabyddus am fod yn un o’r enghreifftiau prin o gerrig a chanddi ysgrifen Ladin ac Ogham arni sydd heb gael ei symud i amgueddfa.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-17. Cyrchwyd 2007-10-17.
- ↑ Windfarm map unveiled for Wales 12 Gorffennaf 2005
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Comisiwn Coedwigaeth Archifwyd 2010-10-07 yn y Peiriant Wayback