Clwb Rygbi Machynlleth

Oddi ar Wicipedia

Lleolir Clwb Rygbi Machynlleth yn nhref Machynlleth, Powys ac maent yn chwarae, fel rheol, yn ail neu trydydd cynghrair y gogledd - yn 2018-19, Cyngrair 3 Gogledd (League 3 North) o system byramid Undeb Rygbi Cymru. Mae'r gynghrair hon yn cynnwys timau o ar draws y Gogledd fel Clwb Rygbi Wrecsam, Clwb rygbi Dolgellau a Chlwb Rygbi Bro Ffestiniog.[1] maent yn rhan o Cyngor Rygbi Gogledd Cymru.[2]

Cit[golygu | golygu cod]

  • Cartref - crysau streipiau ar draws glas tywyll a gwyn; trwsus gwyn; sannau glas tywyll.[3]

Trafferthion[golygu | golygu cod]

Mewn erthygl yn Ebrill 2017 yn y 'western Mail' enwyd Clwb Rygbi Machynlleth ymhlith rhestr hir o glybiau rhanbarthol Cymru oedd wedi colli pwyntiau am iddynt fethu a roi ymlaen tîm llawn ar gyfer gemau.[4] Roedd yr erthygl yn nodi trafferthion dybryd nifer o glybiau i ganfod digon o chwaraeaewyr a'r her o ymarfer a theithio yn bell ar gyfer gemau yn ystod y tymor.

Gŵyl Rygbi 7-bob-ochr Machynlleth[golygu | golygu cod]

Mae'r clwb wedi cynnal Gŵyl Rygbi 7-bob-ochr er cof am Siôn Wyn Evans a chwaraeodd i'r Clwb. Gelwir yr ŵyl yn Siôn Wyn Sevens. Cynhelir hi ym mis Awst fel rheol.[5]

Adeilad y clwb[golygu | golygu cod]

Cafwyd tân yn adeilad y clwb ym mis Medi 2006. Credwyd i'r tân gael ei gychwyn yn fwriadol a gwnaed niwed i'r adeilad.[6]

Mae'r adeilad clwb yn safle ar gyfer sesiynau comedi fel rhan o Ŵyl Gomedi Machynlleth flynyddol y dref. Cynhelir digwyddiadau cerddorol a nosweithiau o bob math yno gan gynnwys gig gan Candelas yn 2015.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]