Clustlys gwyn

Oddi ar Wicipedia
Clustlys gwyn
Diplophyllum albicans

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Scapaniaceae
Genws: Diplophyllum
Rhywogaeth: D. albicans
Enw deuenwol
Diplophyllum albicans

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Clustlys gwyn (enw gwyddonol: Diplophyllum albicans; enw Saesneg: white earwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon yn eithaf cyffredin ac i’w chanfod yng Nghymru, yr Alban, Lloegr ac yn iwerddon, a gwleydd eraill.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Er gwaethaf ei enw, mae'r Clustlys gwyn (D. albicans) yn wyn yn unig pan mae'n sych (neu'n farw!) ac mae fel arfer yn frown neu'n weithiau coch, neu'n wyrdd yn y cysgodion. Ceir clystyrau o egin bychan gwyrdd yn aml yn ffurfio ar flaenau llabedau'r dail. Mae'r coesynnau'n tyfu hyd at 3.5 mm o led, a gallant fod yn sawl centimetr o hyd. Mae'r dail hyd at 0.8 mm o led ac 1.8 mm o hyd.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Fel arfer mae'r Clustlys gwyn yn tyfu ar bridd, mawn, creigiau ac yn anaml ar foncyffion, bonion coed neu hyd yn oed ar waelod coed byw. Mae'n o'r dywodfaen neu graig siâl mewn coetiroedd, gan gynnwys hen chwareli, ar glogwyni agored neu ar bridd agored ar lwybrau coedwigoedd.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Clustlys gwyn gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.