Neidio i'r cynnwys

Club Nacional de Football

Oddi ar Wicipedia
Nacional
Enw llawnClub Nacional de Football
Llysenw(au)tricolores (tri-lliwiog), bolsos
Sefydlwyd1899
MaesEstadio Gran Parque Central (Stadiwm Fawr Parc Ganolog), Montevideo
CadeiryddBaner Wrwgwái José Fuentes
RheolwrBaner Wrwgwái Álvaro Gutiérrez
CynghrairPrimera División Wrwgwáia (Uwch Gynghrair Wrwgwái)
20242.

Mae Clwb Cenedlaethol Pêl-droed (sbaeneg: Club Nacional de Football) yn glwb pêl-droed o Montevideo, Wrwgwái, sy'n chwarae yn Primera División Uruguay (Uwch Gynghrair Wrwgwái). Ymunodd y clwb â'r gynghrair yn 1901, ac ennill y gynghrair am y tro cyntaf yn 1902. Fe'i ffurfwyd ym 1899, pan unwyd clybiau Montevideo Football Club (Clwb Pêl-droed Montevideo) ac Wrwgwái Athletic Club (Clwb Athletau Wrwgwái). Mae'r clwb yn chwarae yn stadiwm Gran Parque Central.

Y clwb oedd sylfaen Tîm Cenedlaethol Wrwgwái a enillodd y Gemau Olympaidd yr Haf yn 1924 a 1928, a Chwpan y Byd cyntaf erioed ym 1930.

Maent wedi ennill pedwar deg chwech pencampwriaethau cenedlaethol, ac un ar hugain o gystadlaethau rhyngwladol swyddogol, gan gynnwys tri Cwpan Rhyng-gyfandirol (cystadleuaeth rhwng pencampwyr De America ac Ewrop), tri Cwpan Libertadores , dwy Gwpan Rhyng-americanaidd ac un Recopa De America.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Pencampwriaeth Genedlaethol (49): 1902, 1903, 1912, 1915, 1916, 1917, 1919, 1920, 1922, 1923, 1924, 1933, 1934, 1939, 1940, 1941, 1942, 1943, 1946, 1947, 1950, 1952, 1955, 1956, 1957, 1963, 1966, 1969, 1970, 1971, 1972, 1977, 1980, 1983, 1992, 1998, 2000, 2001, 2002, 2005, 2005-06, 2008-09, 2010-11, 2011-12, 2014-15, 2016, 2019, 2020, 2022
  • Cwpan Libertadores (3): 1971, 1980, 1988.
  • Cwpan Rhyng-gyfandirol (3): 1971, 1980, 1988.
  • Cwpan Rhyng-americanaidd (2): 1972, 1989.
  • Recopa De America (1): 1989.

Chwaraewyr nodedig

[golygu | golygu cod]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Cwpan Rhyng-gyfandirol, Cwpan Ryng-americanaidd, Recopa De America o'r Saesneg "Intercontinental Cup, Copa Interamericana, Recopa Sudamericana". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.