Clegyr Fwya
Math | safle archaeolegol, caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8785°N 5.2885°W |
Cod OS | SM73732509 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE109 |
Bryn isel a safle archaeolegol yw Clegyr Fwya (amrywiadau: Clegyrfwya, Clegyr Boia) a leolir ger arfordir Sir Benfro i'r gorllewin o Dyddewi. Mae 'Bwya' yn amrywiad ar yr enw personol 'Boia' ac yn cysylltu'r safle â'r traddodiad am y pennaeth lleol a wrthwynebodd Dewi Sant yn y 6g. Ystyr 'clegyr' yw "craig" neu "garreg" ayyb.
Archaeoleg
[golygu | golygu cod]Mae Clegyr Fwya yn safle o bwys i archaeolegwyr oherwydd y dystiolaeth a ddarganfuwyd yno am Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru. Yn y cyfnod hwnnw roedd tylwyth o ffermwyr gwartheg yn byw yno. Cafwyd olion tŷ hirsgwar sylweddol a nifer o ddarnau o grochenwaith neolithig - un o'r canfyddiadau pwysicaf yng Nghymru - sy'n awgrymu cysylltiad ag Iwerddon yn y 3ydd fileniwm CC. Cafwyd bwyeill carreg gorffenedig hefyd, efallai o fryniau Preseli i'r gogledd.[1]
Yn ddiweddarach, yn Oes yr Haearn, codwyd cloddiau rhwng y creigiau i greu amddiffynfa yn amgau 85 wrth 30 m o dir. Nid yw'n cyfrif fel bryngaer ond yn fferm deuluol gydag amddiffynwaith.
Boia
[golygu | golygu cod]- Prif: Boia
Mae'r enw yn cysylltu'r safle â Boia, pennaeth o dras Wyddelig y ceir ei hanes ym Muchedd Dewi, testun canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd Dewi Sant. Ar ddechrau'r adran amdano mae Boia yn eistedd ar graig uchel ger Tyddewi; Clegyr Fwya, efallai. Mae'r stori sy'n dilyn yn un liwgar, yn enwedig y portread o lawforwynion gwraig ddichellgar Boia yn dawnsio'n noethlymun i demtio Dewi a'i ddisgyblion - ond does dim modd profi cysylltiad hanesyddol â'r safle.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Clegyr Fwya ar wefan 'Pembrokeshire Virtual Museum'