Claire Summers

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Claire Summers
Claire Summers.jpg
Ganwyd 1974 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Mae Claire Summers (ganwyd 1974)[1] yn gyflwynydd teledu ar BBC Cymru.

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd, ond tyfodd i fyny yn y Bontfaen, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Howell's, Llandaf. Enillodd radd BA ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ôl-radd mewn newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd.[2]

Gweithiodd Summers i deledu Channel One ym Mryste, gan ohebu, ffilmio, golygu a chyflwyno rhaglenni.  Ymunodd Summers gyda BBC Cymru yn 2000.  Gan mai Summers a Jason Mohammad oedd yr aelodau ieuengaf o dim BBC Wales Today, gofynnwyd iddynt yn aml i ymgymryd ag adroddiadau yn seiliedig ar weithgareddau - megis yn 2005, pryd y bu'n rhaid i Summers arwain un o'r Gwartheg Duon Cymreig o'r enw Ceridwen yn Sioe Frenhinol Cymru.[3][4]  Daeth Summers yn brif gyflwynydd chwaraeon i Wales Today ar yr 8fed o Fedi 2008.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Claire Summers. WalesOnline (22 Hydref 2003).
  2. "Welsh Stars: Claire Summers". Cyrchwyd 28 Ionawr 2016. Unknown parameter |iaith= ignored (help)
  3. BBC - Mid Wales Royal Welsh - Royal Welsh Show TV Coverage
  4. BBC NEWS | Wales | Claire and Ceridwen's big day at Royal Welsh