Cill Chainnigh
Gwedd
| Math | dinasoedd seremoniol yng Ngweriniaeth Iwerddon, dinas, cyngor tref yng Ngweriniaeth Iwerddon, tref |
|---|---|
| Poblogaeth | 22,179 |
| Gefeilldref/i | Yangzhou, Moret-sur-Loing, Formigine |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Gwyddeleg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Kilkenny |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 26.76 km² |
| Uwch y môr | 60 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Ballyragget |
| Cyfesurynnau | 52.6506°N 7.2514°W |
| Cod post | R95 |
![]() | |
Tref yn Iwerddon yw Cill Chainnigh[1] (Saesneg: Kilkenny), sy'n dref sirol Swydd Cill Chainnigh yn nhalaith Leinster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain yr ynys tua 38 milltir i'r gogledd o Waterford a thua 65 milltir i'r de-orllewin o'r brifddinas, Dulyn. Saif ar lan Afon Nore. Roedd poblogaeth Cill Chainnigh yn y cyfrifiad diwethaf yn 22,179 (2011).
Dyma un o drefi hanesyddol mawr Iwerddon, gyda dwy gadeirlan, castell a nifer o adeiladau eraill. Ceir amgueddfa sy'n esbonio hanes Kilkenny yn Nhŷ Rothe. Yma hefyd mae bragdy E. Smithwick & Sons, hoff gwrw Iwerddon ar ôl Guinness.[2]
Adeiladau
[golygu | golygu cod]- Castell Kilkenny
- Eglwys Gadeiriol Sant Canice (Protestannaidd)
- Eglwys Gadeiriol y Santes Fair (Catholigaidd)
- Priordy Sant Ioan
- Yr Abaty Du
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
- ↑ Clive James, Iwerddon (Gwasg Carreg Gwalch, 1993), t.156
