Chwiplys talsyth

Oddi ar Wicipedia
Chwiplys talsyth
Bazzania tricrenata

Statws cadwraeth
prin iawn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Lepidoziaceae
Genws: Bazzania
Rhywogaeth: B. tricrenata
Enw deuenwol
Bazzania tricrenata

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Chwiplys talsyth (enw gwyddonol: Bazzania tricrenata; enw Saesneg: lesser whipwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ac Iwerddon, ond mae'n fwyaf poblogaidd yng ngogledd-orllewin yr Alban a Cumbria.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Fel yr awgryma'r enw Cymraeg, mae'r llysieuyn afu hwn yn dalsyth, ac mae gan pob deilen 3-dant. Mae'r coesynnau'n 2 mm o led. Weithiau mae brig y coesynnau'n plygu eu pennau, fel pe baent yn gweddio yn oren eu lliw, neu weithiau'n wyrdd golau. Mae pob deilen yn 1 mm ei hyd a'i lled.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Tyf ar lechweddau creigiog wedi'u gorchuddio gan rug ar ucheldir gwledydd Prydain, ac ar glogwyni ac ar adegau fe'i ceir ar greigiau mewn coedwigoedd.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Chwiplys talsyth gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.