Christine de Pisan
Christine de Pisan | |
---|---|
![]() Christine de Pisan yn ysgrifennu (1407) | |
Ynganiad |
Fr-Christine De Pisan.ogg ![]() |
Ganwyd |
c. 1364 ![]() Fenis ![]() |
Bu farw |
1430 ![]() Poissy ![]() |
Galwedigaeth |
ysgrifennwr, bardd, ysgrifennydd, cyfieithydd ![]() |
Adnabyddus am |
The Book of the City of Ladies, Le livre du chemin de long estude, The Treasure of the City of Ladies ![]() |
Plant |
Jean de Castel ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Awdures Ffrengig, yn enedigol o'r Eidal, oedd Christine de Pisan neu Christine de Pizan (c. 1364 – c. 1430). Ystyrir hi fel awdures gyntaf Ffrainc, ac efallai y wraig gyntaf yn Ewrop i fod yn awdur proffesiynol. Cyfansoddodd draethodau gwleidyddol a chasgliadau o farddoniaeth. Ymlith ei gweithiau mae Ditié de Jeanne d'Arc, Cent ballades d'amant et de dame a la Cité des dames.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed hi yn Fenis, yn ferch i feddyg o'r enw Thomas de Pizan (Tommaso di Benvenuto da Pizzano). Yn 1368, galwyd Thomas i ddinas Paris gan Siarl V, brenin Ffrainc, a magwyd Christine yn y llys. Yn 1379, priododd Étienne de Castel, ond bu ef farw yn 1390. Bu raid i Christine droi at ysgrifennu i dalu ei ddyledion ac i'w chynnal ei hun a'i thri plentyn.
Ymhlith ei gweithiau, ceir cyfeiriad at Owain Lawgoch a Ieuan Wyn yn ymladd dros Siarl V.