Christa Wolf
Christa Wolf | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Christa Ihlenfeld ![]() 18 Mawrth 1929 ![]() Gorzów Wielkopolski ![]() |
Bu farw | 1 Rhagfyr 2011 ![]() Berlin ![]() |
Man preswyl | Kleinmachnow ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, sgriptiwr, gwleidydd, cydweithiwr answyddogol, nofelydd, awdur ysgrifau, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ffuglen wyddonol, critig, awdur ![]() |
Adnabyddus am | Der geteilte Himmel, Nachdenken über Christa T., Kindheitsmuster, Cassandra ![]() |
Arddull | rhyddiaith ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Undod Sosialaidd yr Almaen ![]() |
Priod | Gerhard Wolf ![]() |
Plant | Annette Simon ![]() |
Perthnasau | Jan Faktor ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Georg Büchner, Gwobr Geschwister-Scholl, Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen, Gwobr Goffa Schiller, Gwobr Heinrich Mann, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Gwobr Nelly Sachs, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Gwobr Franz-Nabl, Gwobr Lenyddol Elisabeth Langgässer, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen, Gwobr Thomas-Mann, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel ![]() |
Awdures o'r Almaen oedd Christa Wolf (née Ihlenfeld; 18 Mawrth 1929 – 1 Rhagfyr 2011) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr, gwleidydd, nofelydd ac awdur ysgrifau.[1][2] Mae'n un o'r awduron mwyaf nodedig sy'n hannu o Ddwyrain yr Almaen.[3][4]
Magwraeth[golygu | golygu cod]
Fe'i ganed yn Gorzów Wielkopolski ar 18 Mawrth 1929 a bu farw yn Berlin lle'i claddwyd ym Mynwent Dorotheenstadt. Priododd Gerhard Wolf. Ei rhieni oedd Otto a Herta Ihlenfeld, ac fe'i ganed yn Landsberg an der Warthe, a oedd bryd hynny yn Rhanbarth Brandenburg,[3] ond sydd bellach yng Ngwlad Pwyl ac yn cael ei adnabod fel Gorzów Wielkopolski.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei theulu, a oedd yn Almaenwyr, eu diarddel o'u cartref pan gymerwyd yr ardal a'i droi'n rhan o Wlad Pwyl. Bu iddyn nhw groesi'r ffin newydd Oder-Neisse yn 1945 a setlo ym Mecklenburg, yn yr hyn a fyddai'n dod yn Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, (Dwyrain yr Almaen). Astudiodd Christa lenyddiaeth ym Mhrifysgol Jena a Phrifysgol Leipzig. Ar ôl iddi raddio, gweithiodd i Undeb Awduron yr Almaen a daeth yn olygydd i gwmni cyhoeddi.[5][6][7][8][9][10]
Yr awdur[golygu | golygu cod]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Divided Heaven, The Quest for Christa T., Patterns of Childhood a Cassandra. Daeth llwyddiant Wolf fel awdur yn 1963 gyda chyhoeddiad Der geteilte Himmel (cyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Divided Heaven a hefyd They Divided the Sky).
Mae ei gweithiau llenyddol yn trafod grym gwleidyddol, economaidd a gwyddonol, gan ei gwneud yn llefarydd dylanwadol iawn yn Nwyrain a Gorllewin yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd ga ei bod yn annog rhoi grym i unigolion i fod yn weithgar yn y gymdeithas ddiwydiannol a phatriarchaidd.[11]
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes; ymunodd a'r Blaid Undod Sosialaidd yr Almaen 1949 a'i gadael ym Mehefin 1989, chwe mis cyn i'r gyfundrefn Gomiwnyddol gwympo.
Beirniadaeth arni[golygu | golygu cod]
Ers ailuno'r Almaen, mae gwaith Wolf wedi cael ei ystyried yn ddadleuol gan rai beirniaid llenyddol. Ar ôl cyhoeddi Was bleibt, dadleuodd beirniaid Gorllewin yr Almaen, fel Frank Schirrmacher, fod Wolf wedi methu â beirniadu awdurdodiaeth cyfundrefn Gomiwnyddol Dwyrain yr Almaen, tra bod eraill yn galw ei gweithiau'n "foesol". Mae ei hamddiffynwyr yn cydnabod rôl Wolf wrth sefydlu llais llenyddol Dwyrain yr Almaen.
Aelodaeth[golygu | golygu cod]
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau'r GDR, Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, Pwyllgor Canolog Plaid Sosialaidd yr Almaen, Academy of Arts, Berlin am rai blynyddoedd. [12][13]
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Georg Büchner (1980), Gwobr Geschwister-Scholl (1987), Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen (1964, 1987), Gwobr Goffa Schiller (1983), Gwobr Heinrich Mann (1963), Gwobr Samuel-Bogumil-Linde (1999), Gwobr Nelly Sachs (1999), Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid (2010), Gwobr Franz-Nabl (1983), Gwobr Lenyddol Elisabeth Langgässer (2000), Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd (1984), Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen (1978), Gwobr Thomas-Mann (2010), Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel (1990)[14][15][16] .
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ A writer who spanned Germany's East-West divide dies in Berlin (obituary), Barbara Garde, Deutsche Welle, 1 Rhagfyr 2011
- ↑ Acclaimed Author Christa Wolf Dies at 82 (obituary), Der Spiegel, 1 Rhagfyr 2011.
- ↑ 3.0 3.1 Christa Wolf obituary, Kate Webb, The Guardian, 1 Rhagfyr 2011
- ↑ Christa Wolf obituary, The Telegraph, 2 Rhagfyr 2011.
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11929338z; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/0xbdfdxj5nb15jq; LIBRIS; dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018; dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2012. https://de.wikipedia.org/w/index.php?title=Liste_deutschsprachiger_Science-Fiction-Autorinnen&oldid=187264839.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_391; dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: (yn mul) Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Dublin, Ohio: OCLC, OCLC 609410106, dynodwr VIAF 109289723, Wikidata Q54919, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11929338z; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://de.wikipedia.org/w/index.php?title=Liste_deutschsprachiger_Science-Fiction-Autorinnen&oldid=187264839; dyddiad cyrchiad: 5 Ebrill 2019.
- ↑ Dyddiad geni: А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11929338z; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://brockhaus.de/ecs/julex/article/wolf-christa; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Christa Wolf. https://cs.isabart.org/person/116475; dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021; dynodwr abART (person): 116475.
- ↑ Dyddiad marw: http://www.nytimes.com/2011/12/02/arts/christa-wolf-dies-at-82-wrote-of-the-germanys.html. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11929338z; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Discogs; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Christa Wolf; dynodwr Discogs (artist): 1190599. https://brockhaus.de/ecs/julex/article/wolf-christa; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Christa Wolf. https://cs.isabart.org/person/116475; dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021; dynodwr abART (person): 116475.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
- ↑ Frederiksen, Elke P.; Ametsbichler, Elizabeth G. (1998). Women Writers in German-Speaking Countries: A Bio-Bibliographical Critical Sourcebook. Greenwood Press. tt. 485, 486.
- ↑ Galwedigaeth: https://de.wikipedia.org/w/index.php?title=Liste_deutschsprachiger_Science-Fiction-Autorinnen&oldid=187264839. https://cs.isabart.org/person/116475; dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021; dynodwr abART (person): 116475. https://de.wikipedia.org/w/index.php?title=Liste_deutschsprachiger_Science-Fiction-Autorinnen&oldid=187264839. https://cs.isabart.org/person/116475; dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021; dynodwr abART (person): 116475.
- ↑ Anrhydeddau: http://www.adk.de/de/akademie/preise-stiftungen/H_Mann_Preis.htm; dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2015. https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur; iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg; dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009. https://cavavub.be/nl/eredoctoraten.
- ↑ http://www.adk.de/de/akademie/preise-stiftungen/H_Mann_Preis.htm; dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2015.
- ↑ https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur; iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg; dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009.
- ↑ https://cavavub.be/nl/eredoctoraten.