Cennydd Traherne

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cennydd George Traherne)
Jump to navigation Jump to search
Cennydd Traherne
Ganwyd 14 Rhagfyr 1910 Edit this on Wikidata
Coedarhydyglyn, Sain Nicolas Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Ionawr 1995 Edit this on Wikidata (84 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth tirfeddiannwr Edit this on Wikidata
Swydd Arglwydd Raglaw Edit this on Wikidata

Tirfeddiannwr o Gymro oedd Syr Cennydd George Traherne, KG, TD (14 Rhagfyr 191026 Ionawr 1995).[1]

Delweddau allanol
Paentiad o Syr Cennydd Traherne.

Dymunodd ei fam, Albanes, roedd iddo'r enw Kenneth ar ôl un o frenhinoedd hynafol yr Alban, ond wrth ei fedyddio ysgrifennodd y clerigwr Cymraeg y ffurf Cennydd yng nghofrestr y plwyf. Roedd yn gallu olrhain ei linach i deulu Traherne Castellau, ger ei dref enedigol Llantrisant, ac Edmund Traherne yn y 16g. Mynychodd Cennydd Goleg Wellington a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen, gan ddysgu'r gyfraith. Gwasanaethodd yn y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bu'n glanio yn Ffrainc ar Dydd-D+1, ac yn hwyrach cafodd ei enwi mewn adroddiadau.[1]

Daeth yn Arglwydd Raglaw Morgannwg ym 1952, ac roedd yn Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg o 1974 hyd 1985. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1964 a'i urddo'n Farchog y Gardas ym 1970. Yn rhinwedd ei swydd yn Arglwydd Raglaw, roedd hefyd yn Custos Rotulorum, hynny yw ceidwad archifau'r siroedd. Fel y Custos roedd yn gadeirydd Pwyllgor Cofnodion Morgannwg, yn hwyrach Cyd-Bwyllgor Archifau Morgannwg, o 1952 hyd 1985.[1]

Nid oedd Syr Cennydd yn medru'r Gymraeg, ond ymdrechodd ef a'i wraig yr Arglwyddes Rowena i'w dysgu. Buont yn byw ym mhlasty Coedarhydyglyn, adeilad o gyfnod y Rhaglywiaeth ar gyrion Caerdydd gyda golygfa dros ddyffryn Elái. Prynodd Ystâd Dyffryn ym 1937, ac yn hwyrach fe'i roddwyd ar brydles i Gyngor Sir Forgannwg.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Sir Cennydd Traherne, K.G., T.D., li.d., 1910-95". The Journal of Glamorgan History, Cyfrol XXXIX 1995. Cylchgronau Cymru Ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd 28 Medi 2015.