Celynllys Hutchins
Celynllys Hutchins Jubula hutchinsiae | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Porellales |
Teulu: | Jubulaceae |
Genws: | Jubula |
Rhywogaeth: | J. hutchinsiae |
Enw deuenwol | |
Jubula hutchinsiae |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Celynllys hutchins (enw gwyddonol: Jubula hutchinsiae; enw Saesneg: Hutchins' hollywort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, arfordiroedd gorllewinol yr Alban ac iwerddon a llond llaw o lefyd yn Lloegr.
Mae'r Celynllys hutchins yn blanhigyn deiliog, gwyrddlas a hyfryd; yn wir gellir dweud ei fod yn gwbwl unigryw, gan ei fod yn ffurfio clytiau llorweddol. Rhennir y dail yn llabedi llydan, pigfain, a bach, siâp helmet. Mae'r coesynnau'n 1–3 mm o led, ac mae'r dail hyd at 1 mm o led ac 1.3 mm o hyd.[1]
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 20 Awst 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.