Cecelia Ahern

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cecelia Ahern
Cecelia Ahern.jpg
Ganwyd 30 Medi 1981 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Man preswyl Swydd Dulyn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Alma mater
  • Coleg Griffith, Dulyn Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ysgrifennwr, nofelydd, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus am PS, I Love You, Love, Rosie, If You Could See Me Now, A Place Called Here, Thanks for the Memories Edit this on Wikidata
Arddull romance novel Edit this on Wikidata
Tad Bertie Ahern Edit this on Wikidata
Mam Celia Larkin Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.cecelia-ahern.com/ Edit this on Wikidata

Awdures o Iwerddon yw Cecelia Ahern (ganwyd 30 Medi 1981) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, nofelydd a sgriptiwr.

Fe'i ganed yn Nulyn ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Griffith, Dulyn. [1][2][3][4]

Mae'n nodelydd poblogaidd, o ran gwerthiant ei llyfrau, ac yn adnabyddus am: PS, I Love You, Love, Rosie, If You Could See Me Now, A Place Called Here a Thanks for the Memories. Erbyn 2019 roedd wedi cyhoeddi ei gwaith mewn bron i hanner cant o wledydd, ac mae wedi gwerthu dros 25 miliwn o gopïau o'i nofelau ledled y byd. Mae dau o'i llyfrau wedi'u haddasu'n ffilmiau epig.

Mae hi a'i llyfrau wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Llyfr Iwerddon am Ffuglen Boblogaidd am ei chyfrol The Year I Met You. Cyhoeddodd sawl nofel ac mae wedi cyfrannu nifer o straeon byrion at flodeugerddi amrywiol. Sgwennodd a chynhyrchodd Ahern y comedi Samantha Who? (ABC), yn serennu Christina Applegate.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Ahern yn ferch i gyn-Taoiseach Iwerddon, Bertie Ahern. Priododd ei chwaer hŷn, Georgina Ahern, â Nicky Byrne o'r grŵp pop Gwyddelig Westlife. Yn 2000, roedd Cecelia Ahern yn rhan o’r grŵp pop Gwyddelig Shimma, a orffennodd yn drydydd yn rownd derfynol genedlaethol Iwerddon ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision.

Ahern yn Frankfurt; 2018

Cyn dechrau ei gyrfa ysgrifennu a chynhyrchu, enillodd radd mewn Newyddiaduraeth a Chyfathrebu â'r Cyfryngau o Goleg Griffith Dulyn, ond tynnodd yn ôl o gwrs gradd Meistr i ddilyn ei gyrfa fel awdur.[5] [6][7]

Yr awdur[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2002, pan oedd Cecelia Ahern yn un ar hugain oed, ysgrifennodd ei nofel gyntaf, PS, I Love You (2004) a fu'r gwerthwr gorau yn Iwerddon am 19 wythnos, ac yn Rhif Un hefyd yng ngwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau, yr Almaen a'r Iseldiroedd. Erbyn 2019 roedd yn cael ei werthu mewn dros 40 o wledydd. Addaswyd y llyfr fel ffilm wedi'i gyfarwyddo gan Richard LaGravenese ac yn serennu Hilary Swank a Gerard Butler. Fe'i rhyddhawyd yn yr Unol Daleithiau ar 21 Rhagfyr 2007.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • One Hundred Names (2012)
  • How To Fall In Love (2013)
  • The Year I Met You (2014)
  • The Marble Collector (2015)
  • Flawed (2016)
  • Lyrebird (2016)
  • Perfect (2017)
  • Postscript (2019)

Storiau byrion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 24 Minutes in Moments (2004)
  • Next Stop: Table For Two in Short and Sweet (2005)
  • The Calling in Irish Girls Are Back In Town (2005)
  • Mrs. Whippy (2006)
  • The End in Girls' Night In (2006)
  • Girl In The Mirror (2010)
  • Roar: Thirty Women, Thirty Stories (2018)

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb145474602; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/20dhn6gl10st223; LIBRIS; dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018; dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb145474602; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578 Internet Movie Database, dynodwr IMDb nm1754499, https://www.imdb.com/, adalwyd 21 Gorffennaf 2015Wikidata Q37312
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 12 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  5. Jarlath Regan (20 Rhagfyr 2015). "Cecelia Ahern". An Irishman Abroad (Podcast) (arg. 118.). SoundCloud. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2015.
  6. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 31 Mawrth 2015Wikidata Q36578
  7. Galwedigaeth: http://shepfromtamp.com/2014/05/01/love-rosie-official-teaser-trailer-2/. http://www.iftn.ie/distribution/?act1=record&only=1&aid=73&rid=4281442&tpl=archnews&force=1. http://shepfromtamp.com/2014/05/01/love-rosie-official-teaser-trailer-2/. http://www.tv.com/shows/samantha-who/cast/.