Catrin ferch Gruffudd ap Hywel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Merch a bardd o Landdeiniolen, Ynys Môn, oedd Catrin ferch Gruffudd ap Hywel (bl. 1555).

Priododd esgob Catholig o'r enw Robert ap Rhys, ac roedd hi'n feirniadol o rai o agweddau'r Diwygiad Protestanaidd. Dilynodd eu mab yr un alwedigaeth fel offeiriad Llanddeiniolen. Mae'r englyn canlynol yn cynrychioli hiraeth Catrin am y grefydd Gatholig yng Nghymru:

Y cór a'r allor a ddrylliwyd — ar gam
Ac ymaith y taflwyd
A'r Lading a erlidiwyd;
O gór y Gŵr llwyd."

Ceir rhagor ganddi am ei chrefydd yn ei hawdl foliant i Grist, neu "Awdl merch glaf er coffa Crist a'i ddioddefaint, neu awdl gyffes pechadures", a phedwar englyn i'r haf oer yn 1555. Cadwyd ei gwaith mewn llawysgrifau yn B.M.Add. MSS. 14892, 14906, 14994, ac Ll.G.C. MSS. 695, 1553, 1559, 2602, 6209 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Welsh Women's Poetry 1460–2001; gol: Katie Gramich, Catherine Brennan. Honno (2003).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Honno; Gwasg Menywod Cymru. Adalwyd 26 Awst 2016.