Catherine O'Hara
| Catherine O'Hara | |
|---|---|
| Ganwyd | Catherine Anne O'Hara 4 Mawrth 1954 Toronto |
| Bu farw | 30 Ionawr 2026 o emboledd ysgyfeiniol Santa Monica |
| Dinasyddiaeth | Canada, Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor llais, cyfarwyddwr ffilm, byrfyfyriwr, sgriptiwr ffilm, actor, sgriptiwr, cerddor, digrifwr, ysgrifennwr |
| Adnabyddus am | Home Alone, Home Alone 2: Lost in New York, Beetlejuice, Beetlejuice Beetlejuice, The Nightmare Before Christmas, The Wild Robot, Elemental, Frankenweenie, Monster House |
| Pwysau | 51 cilogram |
| Priod | Bo Welch |
| Plant | Matthew Welch, Luke Welch |
| Gwobr/au | Earle Grey Award, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Governor General's Performing Arts Award, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Swyddog Urdd Canada, Canadian Comedy Award for Best Performance by a Female – Film, Canadian Comedy Award for Comedic Artist of the Year, Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Musical or Comedy, Gwobr Primetime Emmy am Ysgrifennu Eithriadol mewn Rhaglen Variety, Cerddoriaeth neu Gomedi, Actor Award for Outstanding Performance by a Female Actor in a Comedy Series, Actor Award for Outstanding Performance by a Female Actor in a Comedy Series |
| llofnod | |
Actores a digrifwraig o Ganada oedd Catherine Anne O'Hara (4 Mawrth 1954 – 30 Ionawr 2026), a ennillodd Wobr Emmy a Gwobr Gemini. Roedd hi'n adnabyddus am ei gwaith comedi ar SCTV a'i rôl mewn ffilmiau, gan gynnwys Delia Deetz yn Beetlejuice, Kate McCallister yn Home Alone, Sally yn The Nightmare Before Christmas ac ei hymddangosiad yn ffilmiau mockumentary wedi ei cyfarwyddo gan Christopher Guest.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ei gyrfa actio yn 1974 fel aelod o gast The Second City yn Toronto. Roedd yn ddirprwy actor ar gyfer Gilda Radner tan iddi adael ar gyfer Saturday Night Live. Dwy flynedd yn ddiweddarach fe chwaraeodd y grŵp theatr hwn SCTV, a daeth O'Hara yn berfformiwr rheolaidd.
Yn y 1970au hwyr, fe gyflenwodd y lleisiau ar gyfer nifer o gymeriadau cartŵn, a parhaodd i wneud hyn trwy ei gyrfa. Yn ystod cyfnod byr yn yr 1980au pan oedd SCTV rhwng cytundebau rhwydwaith, fe gafodd ei chyflogi i gymryd lle Ann Risley ar Saturday Night Live pan oedd yn cael ei ail-weithio yn 1981. Er, bu'n rhaid iddi ymddiswyddo heb ymddangos ar un rhaglen, gan ddewis i ddychwelyd i SCTV pan arwyddwyd cytundeb gyda NBC, a dychwelodd y rhaglen i'r awyr.[1][2][3] Rhoddwyd ei swydd SNL i Robin Duke, a oedd hefyd wedi cymryd lle O'Hara mewn un cyfres o SCTV.
Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau dros y blynyddoedd, gan gynnwys After Hours gan Martin Scorsese yn 1985, yn ogystal â chwarae rhannau yn ffilmiau Tim Burton, Beetlejuice a The Nightmare Before Christmas. Chwaraeodd Kate McCallister yn y ddau ffilm Home Alone. Serennodd yn ei phedwaredd ffilm Christopher Guest yn 2006, For Your Consideration (yn dilyn Waiting for Guffman, Best in Show, a A Mighty Wind).
Ar 9 Mehefin 2007, cafodd ei sefydlu yn Canada's Walk of Fame. Yn Mai 2008, datganwyd ei bod wedi arwyddo cytundeb i ymddangos yn drama gomedi ABC, Good Behavior.[4]
Serennodd yn y gyfres comedi Schitt's Creek rhwng 2015 a 2020. Yn ei blynyddoedd olaf ymddangosodd yn y gyfres The Last of Us ac roedd ganddi prif ran yng nghyfres cynta The Studio.[5]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd O'Hara yn Toronto, Ontario i deulu Catholig Gwyddelig.[6] Wedi brodori daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau.[7] Priododd y dylunydd cynhyrchu / cyfarwyddwr ffilm Bo Welch yn 1992, ac mae ganddynt ddau fab, Matthew (ganwyd 1994) a Luke (ganwyd 1997). Mae'n chwaer i'r gantores Mary Margaret O'Hara, er mae hi'n gantores ei hun, fel a welwyd yn y ffilm 2003, A Mighty Wind. Roedd ganddi gyflwr meddygol o'r enw Dextrocardia gyda situs inversus.[8]
Bu farw yn 71 mlwydd oed wedi salwch byr.[9]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilmiau
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl | Rôl |
|---|---|---|
| 1983 | Rock & Rule | Aunt Edith |
| 1985 | After Hours | Gail |
| 1988 | Beetlejuice | Delia Deetz |
| 1990 | Home Alone | Kate McCallister |
| 1990 | Betsy's Wedding | Gloria Henner |
| 1990 | Dick Tracy | Texie Garcia |
| 1990 | Little Vegas | Lexie |
| 1992 | Home Alone 2: Lost in New York | Kate McCallister |
| 1992 | There Goes the Neighborhood | Jessie Lodge |
| 1993 | The Nightmare Before Christmas | Sally a Shock (llais a chanu) |
| 1994 | Little Giants | Young Boy's Mother |
| 1994 | A Simple Twist of Fate | Mrs. Simon |
| 1994 | Wyatt Earp | Allie Earp |
| 1994 | The Paper | Susan |
| 1995 | Tall Tale | Calamity Jane |
| 1996 | Waiting for Guffman | Sheila Albertson |
| 1997 | Hope (Teledu) | Muriel Macswain |
| 1997 | Pippi Longstocking | llais Mrs. Prysselius |
| 1999 | Late Last Night (Teledu) | y Shrink |
| 1998 | Home Fries | Mrs. Lever |
| 1999 | Bartok the Magnificent | llais Ludmilla |
| 1999 | The Life Before This | Sheena |
| 2000 | Edwurd Fudwupper Fibbed Big | llais |
| 2000 | Best in Show | Cookie Guggelman Fleck |
| 2001 | Speaking of Sex | Connie Barker |
| 2001 | Committed (Cyfres deledu) | |
| 2002 | Orange County | Cindy Beugler |
| 2003 | A Mighty Wind | Mickey Crabbe |
| 2004 | Surviving Christmas | Christine Valco |
| 2004 | The Wool Cap | Gloria |
| 2004 | Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events | Justice Strauss |
| 2005 | Chicken Little | Tina |
| 2006 | For Your Consideration | Marilyn Hack |
| 2006 | Monster House | DJ's Mother |
| 2006 | Brother Bear 2 | Kata |
| 2006 | Over The Hedge | Penny |
| 2008 | Penelope | Jessica Wilhern |
| 2009 | Farlanders | I'w gadarnhau |
| 2009 | Where the Wild Things Are | Judith |
Enwogion a ddynwaredwyd gan O'Hara on SCTV
[golygu | golygu cod]- Liv Ullmann
- Katharine Hepburn
- Diane Keaton
- Joey Heatherton
- Lola Falana
- Elizabeth Taylor
- Brooke Shields
- Morgan Fairchild
- Barbara Billingsley
- Phyllis George
- Charlotte Rampling
- Monica Vitti
- Jane Pauley
- Rona Barrett
- Tammy Faye Bakker
- Angie Dickinson
- Dorothy Kilgallen
- Jessica Savitch
- Linda Blair
- Judith Crist
- Rusty Warren
- Gilda Radner
- Joan Sutherland
- Jane Fonda
- Joan Embry
- Candice Bergen
- Meryl Streep
- Karen Black
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Catherine O'Hara on CBC's 'The Hour'
- ↑ Catherine The Great
- ↑ SCTV Shoots For First
- ↑ "Catherine O'Hara to star in ABC pilot". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-17. Cyrchwyd 2008-05-17.
- ↑ "Catherine O'Hara | Actress, Writer, Producer". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-31.
- ↑ Alternative Canadian Walk of Fame - Inductee: Mary Margaret O’Hara
- ↑ Catherine O'Hara Biography (1954-)
- ↑ The Hour - 2 Minutes: Catherine O'Hara
- ↑ Lee, Benjamin (2026-01-30). "Catherine O'Hara, actor known for Home Alone and Schitt's Creek, dies aged 71". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-01-30.