Brooke Shields

Oddi ar Wicipedia
Brooke Shields
GanwydBrooke Christa Camille Shields Edit this on Wikidata
31 Mai 1965 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, model, actor llwyfan, awdur plant, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Taldra6 troedfedd Edit this on Wikidata
TadFrancis Alexander Shields Edit this on Wikidata
MamTeri Shields Edit this on Wikidata
PriodAndre Agassi, Chris Henchy Edit this on Wikidata
PerthnasauMeryl Streep Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Arbennig 'Theatre World', Gwobr Golden Raspberry i'r Actores Wrth Gefn Waethaf, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Golden Raspberry Award for Worst Supporting Actress Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://brookeshields.komi.io Edit this on Wikidata

Actores a model Americanaidd yw Brooke Christa Shields (ganwyd 31 Mai 1965). Dechreuodd fodelu pan oedd yn blentyn ac enillodd glod beirniaid ffilm pan oedd yn ddim ond 12 oed am ei rôl arweiniol yn ffilm Louis Malle, Pretty Baby (1978), lle chwaraeodd ran putain yn New Orleans ar ddechrau'r 20g. Daeth Shields i enwogrwydd byd-eang yn y rôl yma, a pharhaodd i fodelu ac actio drwy ei harddegau a serennodd mewn sawl drama yn yr 1980au, gan gynnwys The Blue Lagoon (1980), ac Endless Love (1981) Franco Zeffirelli .

Yn 1983, gohiriodd Shields ei gyrfa fel model ac actores i fynd i Brifysgol Princeton, lle graddiodd gyda gradd baglor mewn Ieithoedd Rhamant. Yn y 1990au, dychwelodd Shields i'r byd actio ac ymddangos mewn mân rolau mewn amryw o ffilmiau. Serenodd hefyd yn sitcom NBC Suddenly Susan (1996–2000), a derbyniodd ddau enwebiad Golden Globe am ei gwaith, ac yna Lipstick Jungle (2008-2009). Yn 2017, dychwelodd Shields at yr NBC mewn rôl fawr yn Law & Order: Special Victims Unit yn 19eg tymor y sioe. Er 2014, mae Shields wedi lleisio Beverly Goodman yn y gyfres animeiddiedig Mr Pickles a'i spinoff Momma Named Me Sheriff.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Brooke Christa Shields ym Manhattan, Efrog Newydd ar 31 Mai 1965, yn ferch i'r actores a'r model Teri Shields ( g. Schmon; 1933–2012) a'r dyn busnes Frank Shields (1941-2003). Roedd ei mam o dras Gymreig, Seisnig, Almaeneg ac Albanaidd-Gwyddelig,[1] tra bod gan ei thad o dras Saesnig, Ffrengig, Gwyddelig ac Eidalaidd. Yn ôl ymchwil gan William Addams Reitwiesner, mae gan Shields gysylltiadau hynafol â nifer o deuluoedd bonheddig o'r Eidal, yn enwedig o Genoa a Rhufain e.e. y teuluoedd Gattilusi - Palaiologos - Savoy, Grimaldi, Imperiali, Carafa, Doria, Doria-Pamphili-Landi, Chigi-Albani, a'r Torlonia. Roedd ei mam-gu ar ochr ei thad yn ferch fonheddig i Marina Torlonia di Civitella-Cesi, Eidalaidd a oedd yn ferch i dywysog Eidalaidd.

Pan gyhoeddodd Teri ei bod yn feichiog, talodd teulu Frank swm iddi i ddod â'r beichiogrwydd i ben. Cymerodd Teri yr arian, ond fe aeth yn groes i'r cytundeb a rhoddodd enedigaeth i Shields.[2] Priododd Frank â Teri, ond cawsant ysgariad pan oedd Shields yn bum mis oed.[3] Mae gan Brooke Shields ddwy lysferch a thair hanner chwaer.[4] Pan oedd Shields yn ddim ond pum niwrnod oed, nododd ei mam yn agored ei bod am iddi fod yn weithgar yn y byd actio a modelu, gan ddweud, "Hi yw'r plentyn harddaf ac rydw i'n mynd i'w helpu gyda'i gyrfa." [5] Wrth dyfu i fyny, cymerodd Shields wersi piano, bale a marchogaeth .

Magwyd Shields yn y ffydd Gatholig.[6] Yn 10 oed, cymerodd yr enw " Camille". Mynychodd yr ysgol uwchradd yn Haworth, New Jersey, ar draws Pont George Washington o Manhattan.[7] Dywedodd iddi gyfarfod â'r paparazzi, am y tro cyntaf, yn y Grand Ballroom yn y Waldorf Astoria Efrog Newydd pan oedd yn 12 oed, gan nodi ei bod "wedi sefyll fel cerflun yn pendroni pam y cawsant i gyd eu cyflogi i dynnu ei llun." [8]

Mynychodd Shields Ysgol New Lincoln tan yr wythfed radd.[9] Graddiodd o Ysgol Dwight-Englewood yn Englewood, New Jersey, ym 1983. Symudodd i Brifysgol Princeton i ddilyn ei gradd baglor mewn llenyddiaeth Ffrangeg, lle graddiodd ym 1987. Yn Princeton, siaradodd Shields yn agored am ei rhywioldeb a'i morwyndod. Roedd hi'n aelod o Glwb Triongl Princeton a'r Clwb Cap a Gŵn . Cyhoeddwyd ei hunangofiant, On Your Own, ym 1985. Teitl ei thraethawd ymchwil uwch yn 1987 oedd "The Initiation: From Innocence to Experience: The Pre-Adolescent / Adolescent Journey in the Films of Louis Malle, Pretty Baby a Lacombe Lucien." [10]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gwaith cynnar[golygu | golygu cod]

Shields gyda Band Tapio Prifysgol Princeton yn sioe Sally Jessy Raphael yn Chwefror 1991

Dechreuodd Shields ei gyrfa fel model pan oedd yn 11 mis oed ym 1966. Ei swydd gyntaf oedd ar gyfer Ivory Soap, a saethwyd gan Francesco Scavullo. Parhaodd fel plentyn-fodel llwyddiannus gyda'r asiant-modelu Eileen Ford, a nododd, yn ei bywgraffiad Lifetime Network, iddi ddechrau adran blant oherwydd Shields. Gweithiodd Shields gyda'r cyfarwyddwr Woody Allen yn ei ffilm Annie Hall ym 1977, ond torrwyd ei rôl allan o'r ffilm derfynol. Yn 1978, pan oedd hi'n 12 oed, chwaraeodd Shields rol putain-blentyn yn y ffilm Pretty Baby. Dywedodd Eileen Ford, sylfaenydd Asiantaeth Modelu Ford, am Brooke Shields: "Mae hi'n blentyn proffesiynol ac yn unigryw. Mae hi'n edrych fel oedolyn ac yn meddwl fel un hefyd."[11]

Yn 1980, roedd Shields yn 14 oed a hi oedd y model-ffasiwn ieuengaf erioed i ymddangos ar glawr Vogue. Yn yr un flwyddyn, ymddangosodd Shields mewn hysbysebion dadleuol mewn print a theledu ar gyfer jins Calvin Klein. Roedd yr hysbyseb deledu yn ei chynnwys yn dweud y linelll enwog, "Ydych chi eisiau gwybod beth sy'n dod rhyngof i a'm Calvins? Dim byd!"[12] Roedd hysbysebion Brooke Shields yn help enfawr i ddatblygu'r cwmni Klein ar lefel byd-eang.[13]

Rhwng 1981 a 1983, bu Shields, ei mam, a'r ffotograffydd Garry Gross, a Playboy Press ben-ben a'i gilydd yn llysoedd barn Dinas Efrog Newydd ynghylch hawliau ffotograffau yr oedd ei mam wedi'u trosglwyddo (drwy gytundeb ysgrifenedig) i Gross. Wrth ddelio â modelau sy'n blant dan oed, roedd yn ofynol i'r rhiant neu warcheidwad cyfreithiol lofnodi ffurflen rhyddhau hawliau o 'r fath.

Roedd Gary Gross wedi tynnu (gyda chydsyniad ei mam, Teri Shields) set o ffotograffau o Brooke Shields yn noeth yn 1975, pan oedd hi'n 10 oed. Y bwriad oedd eu cyhoeddi yn un o gyhoeddiadau Playboy, sef Sugar 'n' Spice. Mae'r delweddau'n portreadu Shields yn noethlymun, yn sefyll ac yn eistedd mewn bath, yn gwisgo colur ac wedi'i gorchuddio ag olew. Dyfarnodd y llysoedd o blaid y ffotograffydd oherwydd fod Brooke Shields yn cael ei ystyried yn fodel yn hytrach nag yn berfformiwr. Oherwydd penderfyniad y llys, cafodd y lluniau eu cyhoeddi, o'r diwedd, yn Sugar 'n' Spice.[14]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Brooke Shields yng Ngŵyl Ffilm Cannes 1998

Rôl ffilm gyntaf Brooke Shields oedd fel prif actores y ffilm Pretty Baby (1978) a gynhyrchwyd gan Louis Malle, ffilm lle chwaraeodd blentyn o'r enw Violet a oedd yn byw mewn puteindy; ymddangosodd Shields, yn ddim ond 12 oed, mewn nifer o olygfeydd noethlymun. Dim ond 12 oed oedd hi pan ryddhawyd y ffilm, a chododd dadl mewn rhai mannau ynghylch pornograffi plant.[15][16][17] Fodd bynnag, dim ond rhai taleithiau yng Nghanada a'r Ariannin a ataliodd y ffilm. Dilynwyd hyn gan ffilm ychydig yn llai dadleuol a llai nodedig, Wanda Nevada (1979).

Gellir dadlau mai ei ffilmiau mwyaf adnabyddus yw The Blue Lagoon (1980), a oedd eto'n cynnwys golygfeydd noethlymun rhwng cariadon yn eu harddegau, a Endless Love (1981). I ddechrau, rhoddodd yr tysgrif X i Endless Love ond wedi ei hail olygu cafodd dystysgrif R. Enillodd Wobr Dewis y Bobl yng nghategori Hoff Berfformiwr Ifanc mewn pedair blynedd yn olynol rhwng 1981 a 1984. Yn 1998, chwaraeodd Shields lesbiad o'r enw Lily, yn The Misadventures of Margaret .[18]

Yn 2001, darlledodd yn y ffilm What Makes a Family, gan serennu Shields a Cherry Jones mewn stori wir am gwpl lesbiaidd a frwydrodd gyfreithiau mabwysiadu Florida .[19]

Shields ar fwrdd yr USS  Midway   (CV-41) yn ystod taith USO ar 1 Ionawr 1991.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Yn blentyn, roedd hi'n byw gyda'i mam ar yr Ochr Ddwyreiniol Uchaf .[20]

Yn rhifyn Mehefin 2009 o’r cylchgrawn Health, nododd Shields iddi golli ei morwyndod yn 22 oed i’r actor Dean Cain tra roeddent yn canlyn yn Princeton.

Yn y 1990au, hyrwyddodd Shields ffitrwydd corfforol fel estyniad o fenyweidd-dra, gan honni bod benyweidd-dra ac athletau yn gydnaws.[21][22]

Mae Shields yn figan [23] ac yn actifydd hawliau anifeiliaid . Fodd bynnag, er gwaethaf dod allan yn erbyn y diwydiant ffwr ym 1989,[24] aeth Shields ymlaen yn ddiweddarach i greu ei chôt ffwr minc ei hun yn Kopenhagen Fur.

Mae Shields wedi bod yn briod ddwywaith. Rhwng 1997 a 1999, roedd hi'n briod â'r chwaraewr tenis Andre Agassi; roedd y cwpl wedi bod gyda'i gilydd er 1993. Yn dilyn ei hysgariad oddi wrth Agassi, priododd yr awdur Chris Henchy yn 2001, ar ôl iddynt gwrdd ym 1999.[25] Mae ganddyn nhw ddwy ferch [26] ac maen nhw'n byw yn Greenwich Village, Manhattan, Dinas Efrog Newydd .

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Year Title Role Notes
1976 Alice, Sweet Alice Karen Spages
1978 Pretty Baby Violet
1978 King of the Gypsies Tita
1979 Tilt Tilt
1979 Wanda Nevada Wanda Nevada
1979 Just You and Me, Kid Kate
1980 The Blue Lagoon Emmeline Lestrange
1981 Endless Love Jade Butterfield
1983 Sahara Dale
1984 The Muppets Take Manhattan Customer
1989 Speed Zone Stewardess
1989 Brenda Starr Brenda Starr
1990 Backstreet Dreams Stevie
1992 Running Wild Christine Shaye
1993 Freaked Skye Daley
1994 The Postgraduate Fantasy Wife
1994 The Seventh Floor Kate Fletcher
1996 Freeway Mimi Wolverton
1998 The Misadventures of Margaret Lily
1999 The Weekend Nina
1999 Black and White Sam Donager
1999 The Bachelor Buckley Hale-Windsor
1999 The Disenchanted Forest Herself
2000 After Sex Kate
2004 Our Italian Husband Charlene Taylor
2004 The Easter Egg Adventure Horrible Harriet Hare Voice
2005 Bob the Butler Anne Jamieson
2007 National Lampoon's Bag Boy Mrs. Hart
2008 Justice League: The New Frontier Carol Ferris Voice; Direct-to-DVD release
2008 The Midnight Meat Train Susan Hoff
2008 Unstable Fables: Goldilocks & 3 Bears Show Ruby Bear Voice
2009 Hannah Montana: The Movie Susan Stewart Uncredited
2010 Furry Vengeance Tammy Sanders
2010 The Other Guys Herself
2011 Chalet Girl Caroline
2011 The Greening of Whitney Brown Joan Brown
2013 The Hot Flashes Beth Humphrey
2013 A Monsterous Holiday Betsy Voice
2014 Under Wraps Jean Voice
2014 Adventure Planet Voice
2017 Daisy Winters Sandy Winters

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Meeting the ancestors". Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 17, 2013.
  2. "The Lives They Lived". The New York Times. December 28, 2012. Cyrchwyd December 30, 2012.
  3. "Brooke Shields's Mother, Teri Shields, Dies at 79" Archifwyd 2016-08-28 yn y Peiriant Wayback.. People. November 6, 2012.
  4. Shields, B (2008). Welcome to Your World, Baby. HarperCollins. t. 6.
  5. Conner, Floyd (2002). Hollywood's Most Wanted. Brassey's. t. 107. ISBN 1-57488-480-8. ...Her beauty was going to contribute to mankind.
  6. "Brooke Shields". Yahoo! Movies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 28, 2011.
  7. Rondinaro, Gene. "If You Think Of Living In; Haworth", The New York Times, January 26, 1986. Accessed February 19, 2007.
  8. Morehouse, Ward, III (1991). The Waldorf Astoria: America's Gilded Dream. M. Evans. tt. 254–255. ISBN 978-1-4134-6504-4.
  9. People.com: Brooke Shields Archifwyd 2016-08-29 yn y Peiriant Wayback. Retrieved June 28, 2011
  10. Shields, Brooke Christa (1987). The Initiation: From Innocence to Experience: The Pre-Adolescent/Adolescent Journey in the Films of Louis Malle, "Pretty Baby" and "Lacombe Lucien". http://dataspace.princeton.edu/jspui/handle/88435/dsp01qr46r1433. Adalwyd 2020-07-19.
  11. Handel, Gerald (2006). Childhood socialization. Aldine Transaction. t. 37. ISBN 0-202-30641-0.
  12. Style.com Brooke Shields
  13. Hall, Ann C. (1998). Delights, desires and dilemmas: essays on women and the media. Greenwood Publishing Group. t. xii. ISBN 0-275-96156-7.
  14. Siegel, Paul (2007). Communication Law in America. tt. 193–194. ISBN 978-0-7425-5387-3.
  15. McMurran, Kristen. "Pretty Brooke" Archifwyd 2016-09-25 yn y Peiriant Wayback., People (May 29, 1978).
  16. Canby, Vincent. "Critic's Pick: Pretty Baby," The New York Times (April 5, 1978).
  17. Ebert, Roger."Pretty Baby," Archifwyd 2012-10-10 yn y Peiriant Wayback. Chicago Sun-Times (June 1, 1978).
  18. The Advocate. Here. December 23, 1997.
  19. The Advocate. Here. January 31, 2001. tt. 28–30. 'I really believe that if you are against gays and lesbians adopting and you watch this movie,' you will never feel that way again, promises executive producer Craig Zadan.
  20. Thurman, Judith (July 29, 2017). "Brooke Shields's House in New York City". Architectural Digest. Cyrchwyd 23 March 2019.
  21. Jeynes, William (2007). American educational history: school, society and the common good. SAGE. t. 270. ISBN 978-1-4129-1421-5. Several female athletes demonstrated that femininity and athleticism were consistent.
  22. Jeynes, William (2007). American Educational History: School, Society, and the Common Good. t. 270. ISBN 9781412914215.
  23. Yablonsky, Linda (May 13, 2010). "A Vegan Meat Locker with a Heartbeat". The New York Times.
  24. Gibson, Robert W. (April 30, 1989). "Activists Aim to Skin the Fur Industry". Los Angeles Times.
  25. "Brooke Shields battles postpartum depression". MSNBC. May 7, 2009. Retrieved June 20, 2010.
  26. Shields, Brooke (2005). Down Came the Rain: My Journey Through Postpartum Depression. Hyperion. t. 63. ISBN 1-4013-0189-4. Rowan Francis