Castell Llangynwyd
![]() | |
Math | castell ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.58506°N 3.658793°W ![]() |
![]() | |
Castell wedi mynd yn adfail yw Castell Llangynwyd. Mae'n debyg ei fod yn dyddio o'r 12g, ac mae wedi'i leoli yn Llangynwyd, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ger Maesteg, de Cymru.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn y canol oesoedd roedd yn gaer amlwg yng nghantref Gorfynydd ym Morgannwg. Credir iddo gael ei feddiannu tua 1147, ac mae sôn amdano mewn dogfennau o 1246. Ysbeiliwyd y castell ym 1257, cyn cael ei adfer. Ond fe'i llosgwyd i'r llawr ym 1293-4 ac mae'n debyg na chafodd ei ailadeiladu.[1]
Strwythur[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru mae'r castell ar ymyl esgair serth rhwng dwy nant. Roedd i'r castell "gwrt mewnol siâp calon" yn mesur tua 35-7m ar ymyl dde-ddwyreiniol cwrt allanol mwy." Mae'n debyg bod y porthdy â dau dŵr yn edrych fel porthdy mawr Castell Caerffili. Credir ei fod yn dyddio i amser yr ailadeiladu yn y 1260au.
Mae ffos ddofn o gwmpas y mur mewnol, heblaw am yr ochr ogledd-ddwyreiniol. Mae'r mur wedi dirywio'n arw. Gellir gweld llawer o'r sylfeini tu mewn i'r mur mewnol.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Llangynwyd Castle". Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 5 April 2016.
- ↑ "Llangynwyd Castle". Castlewales.com. Cyrchwyd 5 April 2016.