Castell Abertawe
![]() | |
Math | château ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Castell (cymuned) ![]() |
Sir | Sir Abertawe |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 12.3 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6204°N 3.94111°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM012 ![]() |
Castell Normanaidd ydyw Castell Abertawe (Cyfeirnod OS: SS 658 931) a sefydlwyd gan Henry de Beaumont yn 1106 fel caput Arglwyddiaeth Gŵyr.
Hanes[golygu | golygu cod]
Mae'n debyg i'r castell gwreiddiol fod yn lloc siap petryal ar lan ddwyreiniol Afon Tawe, wedi'i amgylchynu i'r gogledd, y gorllewin a'r de gan gastell mwnt a beili allanol. Mae'n debygol iddo gynnwys beili mewnol, ond cred rhai mai gwaith modrwyol oedd yno. Ymosodwyd ar y castell newydd gan y Cymry yn 1116 ond deliodd y castell mewnol. Ar ôl sawl ymosodiad dilwyddiant arall, disgynodd y castell yn 1217, ond dychwelodd e i berchnogaeth y Saeson yn 1220 fel rhan o gytundeb rhwng Llywelyn ap Iorwerth a Harri III. Yn fuan wedi hyn, mae'n debyg i wal garreg fewnol ag un tŵr o leiaf gael eu hadeiladu.
Yn ddiweddarach yn y 13g adeiladwyd mur yn lle'r beili allanol. Yr unig weddillion gweladwy yw dwy ochr y "castell newydd" petryal a adeiladwyd yng nghornel dde-ddwyreiniol y beili allanol tuag at ddiwedd y 13g neu ddechrau'r 14g. Mae'r ochr ddeheuol, sy'n dod i ben ar dŵr tal siap garderobe, wedi ei orffen gan gyfres o arcedau cain ar ben y wal, sy'n debyg i strwythurau llysoedd Esgob Tŷ Ddewi yn Llandyfái ac yn Nhyddewi. Erbyn hyn, roedd y castell wedi colli ei bwysigrwydd milwrol. Mae'n bosib i'r castell ddisgyn i ddwylo cefnogwyr Owain Glyndŵr yn nechrau'r 15g. Yn y 18fed a'r 19g, defnyddiwyd amryw rannau o'r castell fel marchnad, neuadd dref, neuadd ymarfer a charchar. Tynnwyd tu mewn y castell newydd i lawr yn y 20g yn ystod adeiladu swyddfa papur newydd.
Mynediad[golygu | golygu cod]
Mae'r adfeilion erbyn heddiw wedi eu cryfhau a'u agor allan, fel bod modd eu gweld o'r stryd. Mae'r safle yn ngofal Cadw.
Ffynhonnell[golygu | golygu cod]
- B. Morris, Swansea Castle; RCAHMW, Glamorgan, Vol III, part (1b), The Later Castles (2000)