Carrie Nation

Oddi ar Wicipedia
Carrie Nation
GanwydCaroline Amelia Moore Edit this on Wikidata
25 Tachwedd 1846 Edit this on Wikidata
Garrard County, Kentucky Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 1911 Edit this on Wikidata
Leavenworth Edit this on Wikidata
Man preswylBelton, Missouri, Brazoria County, West Columbia, Texas, Richmond, Texas, Medicine Lodge, Guthrie, Oklahoma‎, Eureka Springs, Arkansas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Canol Missouri Edit this on Wikidata
Galwedigaethagitator, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Carrie Amelia Nation (enw bedydd: Carroline, weithiau: Carry[1]; 25 Tachwedd 1846 - 9 Mehefin 1911) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am fod yn aelod radical o'r mudiad dirwest. Gwrthwynebai alcohol cyn dyfodiad y Gwaharddiad syddogol. Mae'n cael ei chofio am ymosod ar sefydliadau sy'n gweini alcohol e.e. tafarndai, a hynny gyda bwyell bychan.[2]

Fe'i ganed yn Garrard County ar 25 Tachwedd 1846; bu farw yn Leavenworth, Kansas ac fe'i claddwyd yn Belton, Missouri. Roedd ei thad yn ffermwr Gwyddelig, yn fasnachwr stoc ac yn perchen caethweision. Yn ystod llawer o'i bywyd cynnar, roedd ei hiechyd yn wael ac roedd ei theulu'n dioddef o anawsterau ariannol. Symudodd y teulu sawl gwaith yn Kentucky ac yn y diwedd, yn 1854, ymsefydlodd yn Belton, Missouri. Cafodd ychydig o addysg anffurfiol.[3][4]

Poenai Nation am ddillad tynn menywod y cyfnod. Yn wir, gwrthododd wisgo staes ac anogodd fenywod i beidio â'u gwisgo oherwydd eu heffeith niweidiol ar organau hanfodol.[5][6]

Disgrifiodd hi ei hun fel "ci tarw yn rhedeg o gwmpas traed Iesu, yn cyfarth ar yr hyn nad yw Ef yn ei hoffi", a honnodd iddi dderbyn orchymyn dwyfol i hyrwyddo dirwest trwy ddinistrio bariau.

Priodi[golygu | golygu cod]

Carrie, wedi iddi briodi David Nation ar 30 Rhagfyr 1874 pan oedd yn 28 oed.

Yn 1865 cyfarfu Carrie â Charles Gloyd, meddyg ifanc a oedd wedi brwydro dros yr Undeb, a oedd yn alcoholig difrifol. Dysgodd Gloyd mewn ysgol a oedd yn agos at fferm y Moores, tra ei fod yn ceisio penderfynu ble i sefydlu ei ymarfer meddygol.[7] Yn y diwedd, ymsefydlodd yn Holden, Missouri, a gofynnodd i Nation ei briodi. Roedd rhieni Nation yn gwrthwynebu'r briodas oherwydd eu bod yn credu ei fod yn gaeth i alcohol, ond aeth y briodas ymlaen. Priodasant ar 21 Tachwedd, 1867, ac fe'u gwahanwyd yn fuan cyn genedigaeth eu merch, Charlien, ar 27 Medi 1868. Bu farw Gloyd yn 1869 o alcoholiaeth.[8]

Wedi'i ddylanwadu gan farwolaeth ei gŵr, datblygodd Nation agwedd negyddol eithafol yn erbyn alcohol. Gyda'r elw o werthu ei thir a etifeddwyd (yn ogystal â gwerthu tir ei gŵr), adeiladodd dŷ bach yn Holden. Symudodd yno gyda'i mam-yng-nghyfraith a Charlien, a mynychodd Sefydliad Normal (tebyg i'r Coleg Normal, Bangor) yn Warrensburg, Missouri, gan ennill ei thystysgrif addysg yng Ngorffennaf 1872. Bu'n dysgu mewn ysgol yn Holden am bedair blynedd cyn graddio mewn hanes. Pwnc ei hymchwil oedd dylanwad athronwyr Groeg ar wleidyddiaeth America.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Undeb Dirwestol Cristnogol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1850 United States Federal Census; this census lists the Moore family, and includes then 3-year-old Caroline. Carrie or Carry were nicknames.
  2. "Carry A. Nation". Kansas Historical Society. Cyrchwyd 4 Mawrth 2016.
  3. Dyddiad geni: "Carry Nation". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carrie Nation". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carry Amelia Nation". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carry Amelia Moore Nation". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carry Amelia Nation". ffeil awdurdod y BnF.
  4. Dyddiad marw: "Carry Nation". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carrie Nation". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carry Amelia Nation". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carry Amelia Moore Nation". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carry Amelia Nation". ffeil awdurdod y BnF.
  5. McQueen, Keven (2001). "Carrie Nation: Militant Prohibitionist". Offbeat Kentuckians: Legends to Lunatics. Ill. by Kyle McQueen. Kuttawa, Kentucky: McClanahan Publishing House. ISBN 0-913383-80-5.
  6. "Carry's Inspiration for Smashing". Kansas State Historical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Rhagfyr 2006. Cyrchwyd 13 Ionawr 2007.
  7. Grace, Fran (2001). Carry A. Nation: Retelling the Life. Indiana University Press. t. 39. ISBN 0253108330. Cyrchwyd April 6, 2014.
  8. Foner, Eric. Give Us Liberty. New York: Norton. t. 850.