Capel y Beirdd

Oddi ar Wicipedia
Capel y Beirdd
Mathcapel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.949707°N 4.277713°W Edit this on Wikidata
Map

Capel yn Rhoslan, Gwynedd, yw Capel y Beirdd, a sefydlwyd yn 1822 gan y Bedyddwyr Cymreig.[1] Cyfeirnod Grid: SH46994161. Cysylltir y capel â dau o feirdd clasurol Eifionydd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, sef Robert ap Gwilym Ddu o'r Betws Fawr yn Llanystumdwy a'i ddisgybl barddol Dewi Wyn o Eifion, awdur y gyfrol Blodau Arfon.

Yr adeilad[golygu | golygu cod]

Codwyd y capel cyntaf ar y safle yn 1822. Cafodd ei ailadeiladu yn 1874, wedi'i gynllunio gan y pensaer lleol R. Williams. Mae'n adeilad yn yr "arddull talcen crwn elfennol" gyda'r mynediad yn ei dalcen (gable).[1]

Cysylltiadau llenyddol[golygu | golygu cod]

Cafodd ei adnabod fel 'Capel y Beirdd' am fod Robert ap Gwilym Ddu - er nad oedd yn fawr o grefyddwr - a'i ddisgybl barddol Dewi Wyn o Eifion wedi cymryd rhan flaenllaw yn sefydlu'r capel. Daeth yn ganolfan ddiwylliannol yn yr ardal gan ennill enwogrwydd yn Eifionydd, Arfon a Llŷn.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Capel y Beirdd Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Coflein.
  2. Bedwyr Lewis Jones, 'The Literary Awakening in Arfon and Eifionydd', Atlas of Caernarvonshire (Gwynedd Rural Council, 1977).
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato