Capel Llwynrhydowen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Capel Llwynrhydowen
Llwynrhydowen old chapel (Unit) NLW3361907.jpg
Math capel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.0833°N 4.27277°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata

Capel ger Rhydowen, Ceredigion yw Capel Llwynrhydowen. Adeiladwyd y capel Undodaidd hwn yn 1834.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd yr achos yn Llwynrhydowen yn 1726 ac adeiladwyd y capel cyntaf yn 1733. Wrth i'r gynulleidfa dyfu yn 1745, codwyd estyniad a'i orffen yn 1791. Adeiladwyd y capel presennol, y trydydd, yn 1834. Llwynrhydowen oedd capel Arminaidd cyntaf Cymru, a throdd nifer o gapeli Arminaidd yn rhai undodaidd maes o law.[2]

Caeodd y capel yn y 1960au.

Gwilym Marles a sgweiar Alltyrodyn 1876[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeg etholiad cyffredinol 1868, penderfynodd rhai o ffermwyr Sir Aberteifi beidio â phleidleisio yn ôl dymuniad eu tirfeddianwyr Torïaidd. Cafodd cynulleidfa'r capel eu cloi allan o'r adeilad a'r fynwent yn 1876 am nad oedd John Lloyd Davies, sgweiar Alltyrodyn, yn cytuno gyda daliadau radical y gweinidog, Gwilym Marles. Cwynai Lloyd fod ideoleg Undodaidd ‘radicalaidd’, gwrth-Dorïaidd, yn torri amodau eu prydles.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Apêl i achub capel Llwynrhydowen yng Ngheredigion. BBC Cymru (1 Chwefror 2015).
  2.  Un o gapeli’r ‘Smotyn Du’ yn derbyn £200,000. golwg360.com (24 Mawrth 2014).
  3. Arwr y Troad Allan : hen ewythr Dylan Thomas - cofnod ar flog Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan Heini Davies, 30 Hydref 2014

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]