Canolfan yr Urdd Pentre Ifan
Jump to navigation
Jump to search
Data cyffredinol | |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Sir Benfro ![]() |
Canolfan addysgol breswyl yw Canolfan yr Urdd Pentre Ifan. Lleolir ym Mhentre Ifan tua dwy filltir o Drefdraeth, rhwng Aberteifi ac Abergwaun ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Sefydlwyd yn 1992 gan Urdd Gobaith Cymru gyda'r pwyslais ar addysg a'r amgylchedd. Mae'r adeilad yn hen borthdy Tuduraidd sy'n dyddio yn wreiddiol o 1485. Mae lle i 18 o bobl i gysgu mewn tair ystafell yno.