Canada Isaf

Oddi ar Wicipedia
Canada Isaf
Enghraifft o'r canlynolTrefedigaeth y Goron Edit this on Wikidata
Daeth i ben10 Chwefror 1841 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu26 Rhagfyr 1791 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganProvince of Quebec Edit this on Wikidata
Olynwyd ganProvince of Canada Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddProvince of Quebec Edit this on Wikidata
OlynyddCanada East, Province of Canada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Canada Isaf (Saesneg: Province of Lower Canada; Canada Inferior ; Ffrangeg: province du Bas-Canada) yn wladfa Brydeinig wedi'i lleoli rhwng rhan isaf Afon Saint Lawrence a glannau Gwlff Saint Lawrence. Roedd yn cynnwys tiroedd deheuol a dwyreiniol talaith bresennol Quebec yng Nghanada a rhanbarth Labrador yn nhalaith bresennol Newfoundland a Labrador (hyd nes y trosglwyddwyd rhanbarth Labrador i Newfoundland yn 1809).[1]

Ffurfiwyd Canada Isaf gan ran o gyn-drefedigaeth Ffrainc Newydd, a boblogwyd yn bennaf gan Ganadaiaid o darddiad Ffrengig, a drosglwyddwyd i'r Deyrnas Unedig ar ôl buddugoliaeth yr Ymerodraeth Brydeinig yn y Rhyfel Saith Mlynedd a elwir yn Rhyfel Franco-Indiaidd yn yr Unol Daleithiau. Cafodd rhannau eraill o Ffrainc Newydd eu ildio i'r Deyrnas Unedig hefyd, gan ddod yn drefedigaethau Nova Scotia , New Brunswick a Prince Edward Island.

Crëwyd talaith Canada Isaf yn 1791 gan y Ddeddf Gyfansoddiadol a ffurfiwyd gan wahaniad daearyddol a gwleidyddol tiriogaeth talaith Quebec i daleithiau Canada Isaf ac Uchaf.[2] Mae'r rhagddodiad "Lower" neu "Inferior" yn cyfeirio at ei safle daearyddol mewn perthynas â blaenddyfroedd Afon Sant Laurence.

Bu Canada Isaf, yn yr agwedd gyfreithiol a gwleidyddol, rhwng 1791 a Chwefror 1841, pan gymhwyswyd y Ddeddf Uno a'i hunodd hi a'i chymydog Canada Uchaf i ffurfio Talaith Unedig Canada. Unwyd y deddfwrfeydd i un senedd gyda chynrychiolaeth gyfartal ar gyfer y ddwy ran, er bod gan Ganada Isaf boblogaeth fwy.[3]

Sefydliadau[golygu | golygu cod]

Crewyd Canada Isaf o Dalaith Quebec, 1774

Yn rhinwedd Deddf Gyfansoddiadol 1791 gosodwyd Canada Isaf o dan awdurdod Llywodraethwr Cyffredinol Prydain Gogledd America. Yn wahanol i Ganada Uchaf, New Brunswick a Nova Scotia, nid oedd wedi penodi Is-lywodraethwr. Roedd Cyngor Deddfwriaethol o bymtheg aelod yn cynorthwyo'r Llywodraethwr, a Chyngor Gweithredol yn gwasanaethu fel y Cabinet.

Fodd bynnag , yr arloesi mwyaf oedd creu Tŷ'r Cynulliad yng Nghanada Isaf, yn cynnwys cynrychiolwyr a ddewiswyd gan y boblogaeth. Hwn oedd cynulliad democrataidd cyntaf y Quebec presennol.

Poplogaeth[golygu | golygu cod]

Dadl iaith yng Nghynulliad Deddfwriaethol cyntaf Canada Isaf ar 21 Ionawr 1793

Trigolion Canada Isaf oedd, gan fwyaf, Canadiens, sef grŵp ethnig a alli ddilyn eu llinach yn ôl i wladychwyr Ffrengig a ymgartrefodd yng Nghanada (Ffrainc Newydd) o'r 17g ymlaen.

Poblogaeth Canada ISaf, 1806 to 1841
Year Census estimate[4]
1806 250,000
1814 335,000
1822 427,465
1825 479,288
1827 473,475
1831 553,134
1841 650,000

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "LABRADOR-CANADA BOUNDARY". marianopolis. 2007. Cyrchwyd 20 Mawrth 2008.
  2. Smith, Simon (1998). British Imperialism 1750–1970. Cambridge University Press. t. 28. ISBN 978-3125806405.
  3. Jacques Monet, SJ; Richard Foot (4 March 2015). "Act of Union". The Canadian Encyclopedia. Toronto: Historica Canada. Cyrchwyd 18 August 2019.
  4. Censuses of Canada. 1665 to 1871, Statistics of Canada, Volume IV, Ottawa, 1876

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato