Camille Paglia
Camille Paglia | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Camille Anna Paglia ![]() 2 Ebrill 1947 ![]() Endicott ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Addysg |
Doethur mewn Athrawiaeth ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
hanesydd celf, athro prifysgol, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, beirniad ffilm, awdur ysgrifau ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am |
Sexual Personae ![]() |
Prif ddylanwad |
Betty Friedan, Simone de Beauvoir ![]() |
Plaid Wleidyddol |
plaid Ddemocrataidd ![]() |
Mudiad |
anffyddiaeth ![]() |
Awdur a beirniad academaidd Americanaidd yw Camille Paglia (ganwyd 2 Ebrill 1947) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hanesydd celf, athro prifysgol, newyddiadurwr a beirniad ffilm. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Sexual Personae. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd. Mae Paglia wedi bod yn athro ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Philadelphia, Pennsylvania, er 1984.
Ysgrifennodd yn feirniaidol ar lawer o agweddau ar ddiwylliant fodern ac ar ffeministiaeth gyfoes America ôl-strwythuraeth (post-structuralism ) yn ogystal â sylwebaeth ar sawl agwedd ar ddiwylliant America fel celf weledol, cerddoriaeth, a hanes ffilm.
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Yale a Phrifysgol Binghamton.
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i ganed yn Endicott, Efrog Newydd, yn blentyn hynaf i Pasquale a Lydia Anne (g. Colapietro) Paglia. Ganwyd pob un o'i phedwar taid a nain yn yr Eidal.[1] Ymfudodd ei mam i'r Unol Daleithiau yn bum mlwydd oed o Ceccano, yn nhalaith Frosinone, Lazio, yr Eidal.[2]
Bu ei thad, cyn-filwr yr Ail Ryfel Byd, yn dysgu yn ysgol uwchradd Academi Rhydychen, a chyflwynodd ei ferch ifanc i gelf trwy lyfrau am hanes celf Ffrainc. Ym 1957, symudodd ei theulu i Syracuse, Efrog Newydd, fel y gallai ei thad ddechrau gweithio mewn ysgol i raddedigion; yn y pen draw daeth ef yn athro ieithoedd Romáwns yng Ngholeg Le Moyne.[3]
Oedolyn[golygu | golygu cod y dudalen]
Am fwy na degawd, roedd Paglia yn bartner i'r artist Alison Maddex.[4][5] Yn gyfreithiol, mabwysiadodd Paglia fab Maddex (a anwyd yn 2002). Yn 2007 gwahanodd y cwpl ond arhosodd y ddau gyda'i gilydd yn "gyd-rieni cytûn," yng ngeiriau Paglia, "a oedd yn byw dwy filltir ar wahân".[6][7]
Mae Paglia yn disgrifio'i hun fel person trawsryweddol a nododd nad yw "erioed wedi uniaethu o gwbl â bod yn fenyw". [8][9][10][11][12]
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Patterson, Christina (2012-08-25). "Camille Paglia - 'I don't get along with lesbians at all. They don't like me, and I don't like them'". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-05-30.
- ↑ https://youtube.com/pg0hPidLPCk?t=41m37s[dolen marw]
- ↑ Duffy, Martha (13 Ionawr 1992). "The Bête Noire of Feminism: Camille Paglia". Time.
- ↑
Hamilton, William L (11 Mawrth 1999). "In a New Museum, a Blue Period". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2013. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Lauerman, Kerry (7 Ebrill 2005). "Camille Paglia: Warrior for the word". Salon.
- ↑ Wente, Margaret (18 Hydref 2007). "Camille Paglia: Hillary Clinton can't win – and shouldn't". The Globe and Mail. Toronto.
- ↑ "Camille Paglia: Gay Activists 'Childish' for Demanding Rights". Towleroad. 25 Mehefin 2009. Cyrchwyd 28 Mehefin 2012.
- ↑ Rhyw: https://www.psychiatrictimes.com/couch-crisis/non-binary-story-and-rescue-self-healing-stories-third-kind.
- ↑ Dyddiad geni: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
- ↑ "Modern Times: Camille Paglia & Jordan B Peterson" – drwy YouTube.
- ↑ "Camille Paglia on her controversial feminism". 7 Mai 2017 – drwy YouTube.
- ↑ "Camille Paglia: I am transgender, but sceptical about "transgender wave"". Marriage Alliance. 28 Mehefin 2017. Cyrchwyd 11 Ebrill 2018.